Abermaw
Tref arfordirol a chymuned yng Ngwynedd yw Abermaw (hefyd Bermo, Abermawddach). Fe'i lleolir ger aber Afon Mawddach ar lan Bae Ceredigion yn ardal Meirionnydd; mae pont reilffordd fawr yn croesi'r afon yn ymyl y dref. Ceir hefyd yma Ganolfan Bad Achub i Ymwelwyr sydd bellach yn arddangosfa. Erys yr harbwr bychan yn brysur, yn arbennig yn yr haf; mae Ras llongau hwylio'r Tri Chopa yn galw yno'n flynyddol.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,522, 2,146 |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,600.34 ha |
Cyfesurynnau | 52.722°N 4.055°W |
Cod SYG | W04000047 |
Cod OS | SH613158 |
Cod post | LL42 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Hanes
golyguTyfodd y dref o gwmpas y diwydiant adeiladu llongau ond erbyn heddiw tref glan môr, dwrsitaidd ydyw'n bennaf. Mae adeiladau hanesyddol y dref yn cynnwys y Tŷ Gwyn, sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol ac sy'n gysylltiedig â Siasbar Tudur, ewythr Harri Tudur, a'r carchardy Tŷ Crwn, sy'n dyddio o'r 18g. Roedd y bardd William Wordsworth yn ymwelydd cyson ag Abermaw ac yn edmygu'r golygfeydd gwych o gwmpas.
Ym 1895 cyflwynodd Fanny Talbot, un o drigolion y dref, Dinas Olau, darn o dir creigiog uwchben y dref, i'r Ymddiriedolaeth Cenedlaethol; cymynrodd gyntaf y mudiad.
Y bont reilffordd
golyguMae pont reilffordd Abermaw, sy'n cludo Rheilffordd Arfordir Cymru dros Afon Mawddach, sydd hefyd yn bont droed, yn un o bontydd pren hiraf gwledydd Prydain. Cafodd y coed ei fygwth gan bry genwair toredo ond fe'i adferwyd, gan alluogi'r trenu i fynd hyd at Pwllheli. Ger pen deuheuol y bont, sydd bron i filltir o hyd, roedd Cyffordd Abermaw a ailenwyd yn 'Morfa Mawddach', lle ymunai cangen Rheilffyrdd y Cambrian o dref Dolgellau, ac felly yr holl lein o orsaf Rhiwabon, a oedd yn rhedeg trwy'r Bala a Dolgellau. Ym mhen deheuol y bont cychwynna Llwybr Dyffryn Mawddach o iard Gorsaf Morfa Mawddach.
Enwogion
golygu- John Gwynoro Davies (1855 - 1935), gweinidog yn Abermaw 1887-1935, Rhyddfrydwr radicalaidd.
- John Griffith (Y Gohebydd) (1821 - 1877), un o newyddiadurwyr mwyaf adnabyddus ei oes.
- Owen Glynne Jones (1867-1899), arloeswr dringo mynyddoedd.
- Robert Owen (Bardd y Môr) (1858-1885), bardd
- Bill Tilman, mynyddwr a morwr enwog fu'n byw yn y dref am flynyddoedd.
- Harold Lowe, 1882-1944 Pumed Swyddog RMS Titanic
- Y Prifardd W D Williams 1900-1985 Prifathro Ysgol Gynradd Abermaw
- Johnny Williams 1926-2007 Paffiwr
- Charlene Emma "Charlie" Brooks (g. 3 Mai 1981), actores Eastenders a gafodd ei magu yn y dref.
Cludiant
golyguFfordd
golyguMae'r briffordd A496 yn rhedeg trwy Abermaw.
Rheilffordd
golyguMae gorsaf Abermaw ar Reilffordd Arfordir Cymru sy'n cysylltu'r dref ag Aberystwyth i'r de (trwy Tywyn ac Aberdyfi lle gellir newid i ddal trên i gyfeiriad Amwythig), a Pwllheli i'r gogledd (trwy Ddyffryn Ardudwy, Harlech a Phorthmadog).
Bysiau
golyguMae gwasanaeth bws 2 Arriva (Dolgellau - Caernarfon / Bangor) yn rhedeg trwy Abermaw a cheir hefyd y gwasanaeth X94 rhwng y dref a Dolgellau.
Fferi
golyguYn yr haf mae gwasanaeth llong fferi bach yn cysylltu Abermaw â Phwynt Penrhyn; oddi yno gellir dal un o drênau bach Rheilffordd Fairbourne (neu'r Friog) i gyfeiriad Tywyn.
Atyniadau yn y cylch
golygu- Llwybr Panorama - golygfeydd gwych dros yr aber
- Carn Gorllwyn - y bryn i'r dwyrain o'r dref; mae rhan ohono'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Llanaber - eglwys hynafol ar lan y môr.
- Carneddau Hengwm gen Llanaber - grŵp o ddwy Siambr gladdu Neolithig a chylch cerrig cynhanesyddol ar y rhosdir uwchben Llanaber.
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]
Gallt y Bermo
golyguAbermaw trwy luniau 1828 - 1978
golyguGwaith gwirfoddol wedi ei ymgymryd gan Hugh Griffith Roberts er budd "Abermaw: Cymdeithasau'n Gyntaf". Pobl y dref boed yn drigolion neu'n alltud sy'n sicrhau llwyddiant y gwaith [1].
Gweler hefyd
golyguOriel
golygu-
Abermaw tua 1830
-
Adeilad yng nghanol tref y Bermo
-
Tŷ'r harbwrfeistr ar y ffrynt.
-
Cofeb Harold Lowe, Tŷ'r Harbwrfeistr
-
Rheinws 'Y Tŷ Crwn'(neu hen garchar y dref) a adeiladwyd yn 1834. Ceuwyd yn 1861 pan agorwyd gorsaf heddlu newydd.
-
Cerflun 'Y Dolffiniaid' ar y traeth
-
Y Prom, Bermo, Gwynedd
-
Yr harbwr wedi'r glaw!
-
Un o'r tai carreg yn Abermaw
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr