Morfa Dyffryn
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru
Traeth a morfa ar arfordir Ardudwy, Gwynedd, yw Morfa Dyffryn. Fe'i lleolir tua 4 milltir i'r de o Harlech, ger pentref Llanbedr. Ceir traeth tywodlyd braf yno sy'n ymestyn am tua dwy filltir ac sy'n adnabyddus yn bennaf heddiw am fod rhan o'r traeth wedi'i neilltuo ar gyfer noethlymunwyr. Mae'r traeth yn braf a'r tywod yn lân. Gwelir dolffiniaid yn nofio yn y môr yn aml.
Math | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 741.29 ha |
Cyfesurynnau | 52.799°N 4.143°W |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Y pentrefi agosaf yw Dyffryn Ardudwy a Llanbedr. Mae Morfa Dyffryn wedi cael ei ddynodi yn Warchodfa Natur Cenedlaethol.
Ychydig o filltiroedd i'r de o'r Morfa mae Sarn Badrig yn ymestyn allan i'r môr.
Cadwraeth
golyguGyda Morfa Harlech, mae Morfa Dyffryn yn Ardal Gadwraeth Arbennig.