Bae Douarnenez
Bae yn département Penn-ar-Bed yng ngorllewin eithaf Llydaw yw Bae Douarnenez. Saif porthladd Douarnenez yma.
Yn ôl y chwedl, safai dinas Kêr-Ys yn yr hyn sy'n awr yn Fae Douarnenez, chwedl debyg i chwedl Cantre'r Gwaelod. Enwyd yr ynys yn y bae yn wreiddiol yn Ynys Sant Tutuarn, ond yn ddiweddarach cafodd ei henwi yn Enez Tristan ar ôl Trystan o chwedl Trystan ac Esyllt. Adeiladwyd priordy ar yr ynys yn gynnar yn y 12g.