Mae Douarnenez (Ffrangeg: Douarnenez) yn gymuned yn Departamant Penn-ar-bed (Ffrangeg Finistère), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Le Juch, Kerlaz, Pouldregad, Poullan-sur-Mer ac mae ganddi boblogaeth o tua 14,163 (1 Ionawr 2021).

Douarnenez
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Br-Douarnenez-Y-M D-Wikikomzoù.flac Edit this on Wikidata
Poblogaeth14,163 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethPhilippe Paul, François Cadic Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iMurmansk Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Llydaw Llydaw
Arwynebedd24.94 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr61 metr, 0 metr, 86 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAr Yeuc'h, Kerlaz, Pouldregad, Poullann Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.0922°N 4.3303°W Edit this on Wikidata
Cod post29100 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Douarnenez Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethPhilippe Paul, François Cadic Edit this on Wikidata
Map

Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg. Porthladd yw Douarnenez. Saif ar Fae Douarnenez, 25 km (15 milltir) i'r gogledd-orllewin o ddinas Kemper.

Poblogaeth

golygu

 

Diwidiant

golygu

Pysgota yw'r prif ddiwydiant, ac mae ffatrioedd i roi pysgod mewn caniau yma, ond erbyn hyn mae twristiaeth wedi dod yn bwysig hefyd.

Chwedloniaeth

golygu

Yn ôl y chwedl, safai dinas Kêr-Ys yn yr hyn sy'n awr yn Fae Douarnenez, chwedl debyg i chwedl Cantre'r Gwaelod. Enwyd yr ynys yn y bae yn wreiddiol yn Ynys Sant Tutuarn, ond yn ddiweddarach cafodd ei henwi ar ôl Trystan o chwedl Trystan ac Esyllt. Adeiladwyd priordy ar yr ynys yn gynnar yn y 12g.

Iaith Llydaweg

golygu

Ymunodd Douarnenez a chynllun ieithyddol Ya d'ar Brezhoneg ar 22 Rhagfyr, 2004. Yn 2008 bu 7.97% o blant ysgol gynradd yn mynychu ysgolion dwyieithog[1]

Cysylltiadau Rhyngwladol

golygu

Mae Douarnenez wedi'i gefeillio â:

Diwilliant

golygu

Canodd Meic Stevens y gitarydd o Solfa gân am y dref.

Ers diwedd y 20g, bu-bu adfywiad yn y diwylliant Llydewig. Mae gan y gymuned Bagad llwyddiannus. Mae Gŵyl Ffilm Douarnenez wedi ei ysbrydoli gan y diwygiad Llydewig, ac yn arbenigo mewn ffilm ieithoedd llai

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Ffrangeg) Ofis ar Brezhoneg: Enseignement bilingue
  2. "Администрация города Мурманска - официальный сайт :: Структурные подразделения". Cyrchwyd 26 May 2016.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: