Bae Pont y Pistyll

Bae ar arfordir Sir Benfro

Bae ar arfordir Sir Benfro yw Bae Pont y Pistyll (Saesneg: Mill Bay). Fe'i lleolir yn ne Sir Benfro ger pentref Dale.

Bae Pont y Pistyll
Mathbae Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6861°N 5.1685°W Edit this on Wikidata
Map

Mae'r bae yn adnabyddus i efrydwyr hanes Cymru fel y man lle glaniodd Harri Tudur ar 7 Awst 1485 i gychwyn ei orymdaith trwy Gymru gan hel ei gefnogwyr wrth deithio yn ei flaen hyd at Machynlleth. Yno, trodd i'r dwyrain gan deithio i'r Amwythig, gan ymladd ym Mrwydr Maes Bosworth ar 22 Awst, lle gorchfygodd fyddin Rhisiart III, brenin Lloegr a chipio Coron Lloegr gan sefydlu llinach y Tuduriaid. Ceir cofeb i dystio am y glaniad.

Lleoliad
Cofeb am laniad Harri Tudur ym Mae Pont y Pistyll

Gweler hefyd golygu

     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.