Harri VII, brenin Lloegr

brenin Lloegr rhwng 1485 a 1509

Roedd Harri Tudur (Saesneg Henry Tudor), y brenin Harri VII o Loegr (28 Ionawr 1457 - 21 Ebrill 1509), yn frenin teyrnas Lloegr o 1485 hyd at ei farwolaeth. Mab Edmwnd Tudur, un o feibion Owain Tudur a Margaret Beaufort oedd Harri; roedd Siasbar Tudur yn frawd i'w dad. Yng nghastell Penfro, pencadlys ei ewythr Siasbar yn Sir Benfro y cafodd ei eni a'i fagu.

Harri VII, brenin Lloegr
Ganwyd28 Ionawr 1457 Edit this on Wikidata
Castell Penfro Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ebrill 1509 Edit this on Wikidata
Palas Richmond Edit this on Wikidata
Swyddteyrn Lloegr, Arglwydd Iwerddon Edit this on Wikidata
TadEdmwnd Tudur Edit this on Wikidata
MamMargaret Beaufort Edit this on Wikidata
PriodElisabeth o Efrog Edit this on Wikidata
PartnerLlydawes anhysbys (?) Edit this on Wikidata
PlantArthur Tudur, Marged Tudur, Harri VIII, Elisabeth Tudur, Mari Tudur, Edmwnd Tudur, Dug Gwlad yr Haf, Edward Tudur, Catrin Tudur, Rowland Filfel Edit this on Wikidata
Llinachtuduriaid Edit this on Wikidata
llofnod
Arfau Harri cyn ei goroni'n frenin
Arfau Harri, wedi ei goroni'n frenin
Castell Penfro lle ganwyd Harri VII yn 1457.
Trosglwyd Siasbar a Harri (a oedd yn 15 oed) o Château de l'Hermine i Château de Suscinio, Morbihan, Llydaw yn Hydref 1472.

Daeth yn frenin Lloegr yn 1485 ar ôl ennill Brwydr Maes Bosworth a churo'r brenin Rhisiart III a laddwyd ar y maes ar ôl y frwydr. Cynrychiolai blaid y Lancastriaid yn erbyn yr Iorciaid yn rhan olaf Rhyfeloedd y Rhosynnau. Ond, maes o law, llwyddodd i uno'r ddwy blaid a rhoi terfyn ar y rhyfel drwy briodi aeres Iorcaidd - Elisabeth o Efrog. Bregus iawn oedd ei hawl i fod yn frenin Lloegr, ond medrai aros mewn grym drwy ei ddoniau gwleidyddol. Llwyddodd i greu perthynas dda rhwng Lloegr â'r Alban drwy drefnu priodas ei ferch Marged â'r brenin Iago IV, brenin yr Alban.

Elisabeth o Efrog oedd ei wraig.

Harri'r Cymro golygu

Defnyddiodd ei gysylltiadau teuluol â Chymru i ennill cefnogaeth y Cymry i'w ymgyrch i gipio'r goron, ond ni ddefnyddiodd ei ddylanwad wedyn i adfer ymreolaeth y Cymry. Roedd y Cymry a'i dilynodd i faes Bosworth yn gobeithio mai Harri oedd y Mab Darogan - fel Owain Lawgoch ac Owain Glyn Dŵr o'i flaen - a fyddai'n adfer Ynys Brydain i'r Brythoniaid, sef y Cymry. Erys ar glawr nifer o gerddi darogan neu frudiau o'r cyfnod hwnnw sy'n dangos mor angerddol oedd y gobaith fod yr amser hir-ddisgwyliedig wedi dod. Wythfed rhan o Gymro o ran ei waed oedd Harri ac nid oes sicrwydd ei fod yn medru siarad Cymraeg er iddo gael ei fagu yn y castell ym Mhenfro. Treuliodd gyfnod mewn alltudiaeth yn Llydaw. Yn ôl yr hanesydd Chris Skidmore, fodd bynnag, fe'i nyrsiwyd am flynyddoedd gan wraig Philip ap Howel o Gaerfyrddin a fyddai "fwy na thebyg" wedi ei ddysgu i ddeall a siarad Cymraeg'. Rhaid cofio hefyd, er mai Iorcydd oedd yn rheoli'r rhan fwyaf o Dde Cymru yr adeg honno, gan gynnwys Castell Penfro, sef William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469), ei fod yn ŵr diwylliedig iawn, ac yn dipyn o arwr i Feirdd yr Uchelwyr fel Guto'r Glyn.[1] Mae Skidmore yn ei alw'n 'Gymro' drwy gydol ei waith.[2]

Mewn llythyr gan Louis XI at Guillaume Compaing, deon o Orleans, dywedodd Louis dro ar ôl tro (gan gyfeirio at ei ymosodiad aflwyddiannus gyda Siasbar, pan laniodd tair llong Ffrengig yn aber Afon Dyfi): Pe bai Siasbar yn dymuno dychwelyd i Gymru i adennill ei diroedd yna byddai'n cael ffafrau (gen i) i gyflawni hynny, a sawl tro bu pwysau arno gan bobl yng Nghymru i wneud hynny.... Rhoddodd y Brenin (Ffrainc) pob ffafr posibl iddo wneud hynny oherwydd clymiadau teuluol agos, fel y gallai adennill, cadw ac amddiffyn ei ystadau a'i diroedd yng Nghymru. Nid unwaith y sonia'r y Brenin mai ymosodiad ar Loegr ydoedd. Barn rhai haneswyr o Loegr yw nad oedd llinach Gymreig Harri wedi chwarae unrhyw ran ym Mrwydr Bosworth a gorseddu Harri yn Frenin Lloegr.[3]

Cefndir golygu

Roedd ei dad Edmwnd yn hanner brawd i frenin Lloegr, sef Harri VI a bu Edmwnd (a'i frawd Siasbar) yn driw iddo tan ei ddydd olaf. Yn eironig, yng Nghymru y bu farw Edmwnd, wedi iddo gael ei ddanfon gan y brenin o'i gartref yn Llundain i roi trefn ar ddeheubarth Cymru, gan nad oedd llawer o'r bobl yn derbyn awdurdod Dug Efrog a'i gynrychiolydd sef William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469) yng Nghymru, i arglwyddiaethu drostynt. Dyma ddechrau'r cyfnod a elwir yn Rhyfel y Rhosynnau, gyda'r brenin, Siasbar, Edmwnd - a'u tad Owain Tudur yn ochri gyda Lancastriaid a'r Dug Efrog ac eraill gyda'r Iorciaid. Fe'i carcharwyd am ychydig gan Herbert yng Nghastell Caerfyrddin, lle'r aeth yn wael; ni wyddus yn union beth a achosodd ei farwolaeth, ac mae'n bosibl mai cael ei wenwyno a wnaeth.

Canodd y beirdd am Edmwnd: 'yn frawd i'r brenin, nai i'r Dauphin a mab Owain', bu farw yn ddim ond 26 oed. Llai na hanner hynny oedd oedran ei ail-wraig Margaret o Anjou, pan anwyd Harri: deuddeg oed. Ac ar ddiwrnod ei farwolaeth, ni wyddai Edmwnd fod yn ei chroth blentyn - Harri a chymerodd brawd Edmwnd, Siasbar, ofal ohono a'i ystâd enfawr. Yn dilyn buddugoliaeth yr Iorciaid ym Mrwydr Mortimer's Cross gorseddwyd Edward IV yn frenin a dihangodd Sisbar a mam Harri, Margaret, i'r Alban, Ffrainc, Llydaw a gwledydd eraill gan geisio annog ailfeddianu coron Lloegr i Harri VI.

Ar 1 Hydref 1456 bu farw Edmwnd; ar 28 Ionawr 1457, 4 mis yn ddiweddarach, ganwyd Harri yng Nghastell Penfro, gan adael ddeufis yn ddiweddarach yn ôl i'w cartref yn Llundain. Ond cafodd y plentyn Harri lonydd gan y brenin newydd, a rhoddwyd ef i'w fagu gan William Herbert yng Nghastell Penfro.

Magwraeth golygu

Harri oedd unig blentyn Margaret. Yn ôl y croniclwr Elis Gruffydd ('Y Milwr o Galais') a sgwennodd yn yr 16g, dywedwyd wrtho gan sawl hen berson mai enw canol Harri Tudur pan gafodd ei fedyddio oedd Owain ond gwrthwynebwyd hynny gan y fam, a bwysleisio mai enw Lancastraidd oedd ei angen.[4]

Dywed un cofiannydd cynnar, Bernard André, mai plentyn eitha gwan oedd Harri Tudur a oedd wastad yn llawn anhwylder o bob math. Dywedir iddo dderbyn addysg bersonol 'o'r radd flaenaf' gan rai megis Philip ap Howel, Edward Haseley (a ddaeth yn y man yn Ddeon Warwick), Andrew Scot (Athro prifysgol mewn Diwynyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, ac addysg filwrol oddi wrth Syr Hugh Johns, tirfeddiannwr lleol. "Ni welais i erioed blentyn mor gyflym am ddysgu, ac mor ddwfn ei allu" oedd barn Scot wrth André. Sylweddoddolodd lawer o'r beirdd yn yr adeg yma bwysigrwydd Harri i Gymru, gan annog Herbert i edrych ar ôl y 'wennol', a'i warchod yn ofalus.

Dianc i Lydaw golygu

Roedd buddugoliaeth Edward IV dros y Lancastriaid ym Mrwydr Tewkesbury yn ysgubol. Lladdwyd nifer o uchelwyr gan gynnwys: John Beaufort, Somerset a Warwick. Yn dilyn y frwydr, ar 21 Mai, martisodd Edward ei filwyr i Lundain, gan hawlio Coron Lloegr, a'r noson honno bu farw Harri VI yn Nhŵr Llundain, yn fwy na thebyg dan orchymyn Edward.[5] Tra ymladdwyd y frwydyr, roedd yr Harri Tudur ifanc yn saff yng Nghastell Penfro a'i ewyrth Siasbar Tudur; pendronodd Siasbr beth oedd oblygiadau'r frwydr i'w deulu ac i'r Lancastriaid, a pha gamau i'w cymryd i ddyrchafu Harri i'r orsedd. Danfonodd y brenin newydd Roger Vaughan o Dretower i ddal Siasbar, ond Siasbar symudodd gyntaf, gan ddienyddio Roger; yn eironig Roger Vaughan oedd y person a orchmynodd ladd tad Siasbar, sef Owain Tudur, ddeg mlynedd ynghynt. Yn dilyn hyn, hwyliodd Siasbar a Harri i Ffrainc ond chwythodd y gwynt eu llong i Le Conquet, Penn-ar-Bed (Finistere), Llydaw lle croesawyd y ddau gan Ffransis II, Dug Llydaw a chawsant eu cadw yn Château de l'Hermine i ddechrau cyn eu trosglwyddo i Château de Suscinio, Morbihan, yn Hydref 1472. Credodd Harri iddynt gael eu hachub gan sant lleol o'r enw Sant Arthfael (Sant Arfel yn Llydaweg), sant a oedd a'i eglwys (yn Plouharnel) bum milltir o Josselin.

Bu farw Henry Stafford, ail ŵr Maragret Beaufort, mam Harri, o'r clwyfau a dderbyniodd ym Mrwydr Tekesbury ac ar 2 Mehefin 1472 priododd a Iorcydd cyfoethog Thomas Stanley oedd a thir yng Ngogledd Cymru, Sir Gaer a Swydd Gaerhirfryn. Gwahanwyd Harri a Siasbar yn Llydaw: rhoddwyd lloches i Harri yn nhref caerog Gwened am gyfnod hir, ger Château de l'Hermine y dug, rhag ofn iddo gael ei gipio. Yn Hydref 1476 symudwyd ef i ddyffryn Oust, ger Largoet, dan ofal Vincent de la Landelle. Yn Gwened y bu Siasbar hefyd rhwng 1475 ac 1483, yng ngofal Bertrand du Parc.[6]

Ceisiodd Edward IV 'brynnu' Siasbar a Harri ar sawl achlysur, er mwyn dod â bygythiad y Lancastriaid i ben unwaith ac am byth. Rhoddodd Louis XI, Brenin Ffrainc, gryn bwysau arno, hefyd, i drosglwyddo'r ddau iddo, gan ei fod yn gefnder cyntaf i Siasbar. Penderfyniad Ffransis yn 1474 oedd gwahanu'r ddau gan drosglwyddo Siasbar i Gastell Josselin, 25 milltir o Gwened (Vannes) lle y bu tan 1475 a Harri i 'Gastell yr Un Tŵr ar Ddeg' (Ffrangeg: Château de Largoët), dan ofalaeth Jean de Rieux.[7] Pan ddaeth Richard III, brenin Lloegr yn Arglwydd Amddiffynnydd ar farwolaeth disyfyd ei frawd Edward IV, dechreuodd erlyn rai o deulu-yng-nghyfraith ei frawd (y Woodvilles) a ffôdd Syr Edward Woodville i Lydaw gyda £10,250 mewn darnau aur, gan geisio Siasbar Tudur a Harri VII fel cyd-gynllwynwyr ymosodiad potensial ar Goron Lloegr. Yn nechrau'r 1480au trosglwyddwyd Harri i ofal Jean Guillemet ac yn 1481 bu gyda Louis de Kermene a'i fab Giles yn Sant Brieg ac yn 1482 gyda Jean de Robichen yng Nghastell Naoned. Rhwng 1481-2 costiodd £2,000 i warchod Harri a £607 i warchod Siasbar. Ar farwolaeth, Edward IV, credodd y Dug Francis fod y perygl drosodd a chaniataodd i'r ddau fynd a dod yn gymharol rydd.

Pan oedd Harri tua pymtheg oed, bu ganddo Lydawes yn gariad; ni wyddys ei henw, ond cafodd blentyn: Rowland Filfel, a ddychwelodd efo Siasbar a Harri i Gymru flynyddoedd yn ddiweddarach.

Gwrthryfel aflwyddiannus golygu

Yn dilyn coroni Harri III, cafwyd llawer o fân wrthryfela ledled Lloegr gydag ymateb y brenin newydd yn hynod o llawdrwm, a dihangodd llawer o bobl i Lydaw at Harri. Yn haf 1483 cydgordiodd mamau Harri ac Elisabeth o Efrog, sef Margaret Beaufort ac Elizabeth Woodville wrthryfel arall, fyddai'n digwydd ar yr un adeg ag ymosodiad Harri ar Loegr. Cytunodd y dug Francis II brenin Llydaw i ddanfon saith llong gyda 517 o filwyr arfog, a gostiodd iddo dros 13,000 coron. Ond ar 18 Hydref, trodd y gwynt yn storm a gorfodwyd y cychod yn ôl i Lydaw. Roedd si o'r gwrthryfel wedi cyrraedd Richard III ac aeth ati i ddial; daliwyd Henry Stafford, ail ddug Buckingham a lladdwyd ef yng nghanol yr Amwythig. Yn dilyn ei farwolaeth, priododd Siasbar Tudur ei weddw Catherine. Methodd y gwrthryfel am ddau reswm, yn gyntaf roedd rebeliaid Caint wedi codi wythnosau cyn y dyddiad a gytunwyd, a thrwy hynny daeth Richard i glywed am y cynlluniau. Yn ail, nid ymunodd y Cymry gyda'r gwrthryfel.[8]

Addewid i briodi Elizabeth golygu

Tyngodd Harri Tudur lw o ffyddlondeb i Elizabeth ar Ddiwrnod Nadolig 1483 yn Eglwys Gadeiriol Gwened (Vannes), gyda thua 500 o'i ffyddloniaid wedi ymgynull. Tyngodd hwythau lw o ffyddlondeb i Harri. I deuluoedd y Woodvilles a'r Iorciaid, roedd hyn yn golygu parhad y gwaed Iorcaidd ym mrenhiniaeth Lloegr; ac yn uno'r Iorciaid gyda'r Lancastriaid. Oherwydd hyn dyfnhaodd y teimlad mai Harri oedd gwir frenin Lloegr. O safbwynt Cymru, roedd yn uno'r Iorciaid fel Guto'r Glyn a'r Lancastriaid, ac felly'n uno Cymru dan faner y Tuduriaid, drwy'r Cymro Harri Tudur.

Y daith trwy Gymru golygu

Gadael Llydaw golygu

 
Taith Harri Tudur drwy Gymru.

Ymgasglodd llu enfawr ym Mhorthladd Ffrengig Honfleur yn niwedd Gorffennaf 1485, tua 500 ohonynt yn Saeson a Chymru. Yn hanes 'John Major' a gyhoeddwyd yn 1521 sonir i Siarl VIII, brenin Ffrainc gynnig 5,000 o filwyr i Harri, gyda mil o'r rheiny'n dod o'r Alban, gyda Syr Alexander Bruce yn eu harwain. Ond nid yw'n glir faint yn union o Ffrancwyr a ddaeth ar fwrdd y llongau. Yn rhyfeddol, ni sonia'r un hanesydd o Loegr am yr Albanwyr hyn.[9] Wedi'r frwydr fe welwn i Harri wobrwyo Bruce gyda thaliad blynyddol o £20. Mae'r hanesydd Saesneg Chris Skidmore yn awgrymu fod dros hanner milwyr y llynges yn Ffrancwyr, llawer ohonynt o arsiwn Phillipe de Crevecoeur, Arglwydd Esquerdes. Cytuna Croniclwr Crowland gyda hynny, pan ddywedodd fod cymaint o Ffrancwyr ag oedd o 'Saeson'. Yn ôl Commynes roedd y 3,000 o Ffrancwyr a gasglodd 'ymhlith y dynion mwyaf didrefn Normandi cyfan!' Mae'n bosibl fod cadw'r rhain ar wahân i fyddin Rhys ap Thomas wedi bod yn ffactor pam y trafeiliodd y ddwy garfan ar wahân drwy Gymru.[10]

Gadawodd 30 o longau Honfleur ar 1 Awst 1485 a chafwyd 'gwynt teg a ffafriol' y tu ôl iddynt. Saith diwrnod yn ddiweddarach cyrhaeddodd y llynges arfordir Penfro gan lanio ym Mae Pont y Pistyll, ger Dale ar 7 Awst.

Glanio ym Mhenfro golygu

Wedi cyrraedd arfordir Penfro, ar y 7fed o Awst, aeth rhan o'r fyddin gan gynnwys Harri ar y lan ac ni chafwyd ymosodiad arnynt o fath yn y byd, a chysgodd byddin Harri o fewn tafliad carreg i Gastell Dale. Yn y bore, martsiodd y fyddin i Hwlffordd, dinas weinyddol Sir Benfro yr adeg honno, a chawsant gryn groeso gan y dinasyddion, yn enwedig gan fod y gwir 'Iarll Penfro', sef Siasbar Tudur yn un o'r criw. Ymunodd y Cymro Arnold Butler gyda Harri gan fynegi fod y cyfan o Benfro y tu ôl iddo; roedd y ddau wedi cyfarfod misoedd ynghynt yn Llydaw i drefnu'r ymosodiad. Cyfaill agosaf Arnold Butler oedd Rhys ap Thomas, ac roedd hyn yn allweddol i lwyddiant y Cymry. Ymunodd dau arall: Gruffydd Rede o Gaerfyrddin a'i filwyr a John Morgan o Dredegar, Gwent. Ar yr ail o Awst, dringodd y fyddin drwy Fwlch-y-gwynt a thros Mynyddoedd y Preselau ac ymlaen i'r gogledd tuag at y Fagwyr Lwyd, ychydig i'r de o Gilgwyn.

Y daith trwy Gymru ac i Faes Bosworth golygu

Yn hytrach na theithio'n uniongyrchol i Lundain i ymladd am Goron Lloegr, teithiodd Harri i'r gogledd - i Fachynlleth, tref a oedd yn orlawn o symboliaeth cenedlaethol Gymreig, gan mai yno y bu Senedd Owain Glyn Dŵr. Yma hefyd y brwydrodd hynafiaid Harri yn erbyn Harri IV, brenin Lloegr. Ar ei ffordd i Fachynlleth, casglodd llu enfawr, ac yn gyfochrog i'w daith, teithiodd Rhys ap Thomas (14491525), un o uchelwyr mwyaf grymus De Cymru gan gasglu dros 3,000 o Gymry. Wedi cyrraedd Machynlleth, a thrafod gyda Gwyr Gwynedd, trodd Harri ei fyddin tua Lloegr ac ar 16 Awst unwyd y ddwy fyddin ar gopa bryn gwastad enfawr ychydig i'r dwyrain o'r Trallwng sef Cefn Digoll, ger y ffin â Swydd Amwythig.

Brwydr Maes Bosworth golygu

Wedi Maes Bosworth golygu

Wedi cyfnod byr yng Nghaerlŷr, ar y 3ydd o Fedi, teithiodd Harri a'i osgordd i Lundain gan arwain prosesiwn o Shoreditch i Eglwys Gadeiriol Sant Paul gan osod y Ddraig Goch a dwy faner arall i orffwys wrth yr allor. Pythefnos yn ddiweddarach daeth wyneb yn wyneb â'i fam am y tro cyntaf ers pan oedd yn 14 oed (1470); daeth hithau i Lundain i fyw yn un o'i dai: Coldharbour, ar lan y Tafwys.

Yn dilyn y frwydr canodd y beirdd, gan gynnwys Guto'r Glyn a ganodd gywydd i Rhys ap Tomas o Abermarlais a'i ran ym muddugoliaeth Harri:

Cwncwerodd y Cing Harri 
Y maes drwy nerth ein meistr ni: 
Lladd Eingl, llaw ddiangen, 
Lladd y baedd, eilliodd ei ben, 
A Syr Rys mal sŷr aesawr 
Â’r gwayw ’n eu mysg ar gnyw mawr.[11]

Roedd nifer o noddwyr eraill Guto'r Glyn yn cefnogi Harri ac yn eu plith roedd Syr Water Herbert, Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan, Rhys ap Llywelyn ap Hwlcyn o Fôn a mwy na thebyg yr Abad Dafydd ab Owain o Ystrad Marchell. Roedd Siôn Edward o Blasnewydd yno ym myddin Syr William Stanley, a chyfeiria Guto at y pryder amdano ac yntau wedi teithio i Loegr 'yn awr angen y baedd':

Yn rhaid y baedd rhodiaw bu 
Yn Lloegr, ninnau'n llewygu; 
A Duw a'r saint a'i rhoes ef 
O'r frwydr, ef a'i wŷr, adref.

Gwobrwywyd llawer o gefnogwyr Cymreig, wedi'r frwydr, gan gynnwys Siasbar Tudur (Dug Bedford) a Rhys ap Thomas (marchog). Erbyn 1496 aeth y rhan fwyaf o swyddi cyhoeddus Cymru i ddwylo'r Cymry ac ehangodd eu cyfle yn Lloegr i ddal swyddi a gwneud gyrfa iddynt eu hunain yno. Dyrchafwyd hefyd lawer o Gymry'n esgobion a swyddi eraill yn yr Eglwys yng Nghymru; cafwyd esgobion Cymreig yn Nhyddewi (1496), Llanelwy (1500) a Bangor (1542). Daeth arglwyddi'r Mers hefyd i ben ac erbyn 1509, tri'n unig oedd ar ôl: Buckinham (Brycheiniog a Chasnewydd), Charles Somerset (Cas-Gwent, Cruchywel, Rhaglan a Gŵyr) ac Edward Grey (rhan o Bowys).

Ymhlith y rhai dderbyniodd anrhydeddau neu nawdd roedd ei dad gwyn, Thomas Stanley, a dderbyniodd faenorau yn Fflint, Caer a Warwick. Gwnaed Rhys ap Thomas yn Farchog ac yn Siambrlaen De Cymru a'i ewyrth Siasbar yn Arglwydd Brif Ustus De Cymru ac Adam ap Jevan ap Jenkins yn Dwrnai'r Brenin yng Nghaerfyrddin ac Aberteifi. Gwobrwywyd hefyd lawer o Gymry a ymunodd â Harri ar eu taith drwy Gymru, gan gynnwys: Morris Lloyd, Owen Lloyd (Cwnstablaeth Castell Aberteifi) ac William Gruffudd (William Griffith) yn Siambrlaen Gogledd Cymru a William Stanley (perthynas teulu'r Stanley) yn Arglwydd Brif Ustus Gogledd Cymru. Gwobrwywyd meddyg Elizabeth Woodville, sef Lewis o Gaerleon a heriodd farwolaeth sawl tro yn mynd a negeseuon rhwng Elizabeth a Margaret Beaufort, mam Harri, gyda nawdd blynyddol o £40. Yn ôl J. M. Edwards, chwaraeodd y telu Mostyn ran blaenllaw iawn yn y frwydr; dywed i un o'r teulu, Huw Conwy o Fodrhyddan ddilyn Harri i Lydaw gyda neges am y trefniadau diweddaraf. Noda hefyd i Richard ap Howell, Mostyn arwain 1,600 o ddynion i gyfarfod Harri, ychydig cyn y frwydr. Am hyn derbyniodd gleddyf a gwregys Harri.[12]

Derbyniodd y canlynol hefyd roddion a gwobrau: Rhydderch ap Rhys, Maurice ap Owen a Richard Owen (Stiwardiaeth Cydweli), Rhys ap llywelyn ap Hulkyn (Statws 'Sais'); rhoddwyd rhodd i un o brif filwyr Harri a fu gydag ef ar hyd y daith o Lydaw, sef yr Albanwr Alexander Bruce. Gwobrwywyd dros 400 o bobl yn ystod y blynyddoedd dilynol.

Gwrthryfeloedd Lambert Simnel a Perkin Warbeck golygu

Y ddwy brif ymgais a wynebodd Harri’r VII i’w orsedd oedd oddi wrth Lambert Simnel a Perkin Warbeck. Elfen gyffredin rhwng y ddau gais hyn i ddiorseddu Harri’r VII oedd eu bod yn ceisio dynwared neu ffugio bod yn rhywun arall. Cefnogwyd ymgyrchoedd y ddau am goron Lloegr gan un o brif gefnogwyr y Iorciaid, sef Margaret, Duges Burgundy a chwaer ieuengaf Rhisiart III. Llwyddodd y Dduges i ddenu cefnogaeth i’w hymdrechion gan rai o brif elynion Lloegr, sef Ffrainc a’r Alban. Cyflwynwyd y ddau fel ymgeiswyr oedd â hawl fwy cyfiawn na Harri’r VII i orsedd Lloegr.

Plant golygu

Roedd ganddo hefyd blentyn anghyfreithlon, ers ei ddyddiau yn Llydaw, sef Roland de Velville. Llydawes oedd ei fam.

Ei linach gwrywaidd golygu

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Ednyfed Fychan
m. 1246
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Goronwy ab Ednyfed
m. 1268
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Tudur Hen
(neu Tudur ap Goronwy)
m. 1311
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Goronwy ap Tudur Hen
m. 1331
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Elen ferch Tomos
(mam Owain Glyn Dŵr)
 
 
Marged ferch Tomos
 
 
Tudur ap Goronwy
m. 1367
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Maredudd ap Tudur
m. 1406
 
Rhys ap Tudur
m. 1409
 
Gwilym ap Tudur
m. 1413
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Tudur
m. 1461
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Edmwnd Tudur
m. 1456
 
Siasbar Tudur
m.1495
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Harri VII, brenin Lloegr
m. 1507

Llyfryddiaeth golygu

Ceir nifer o lyfrau am Harri Tudur ond ychydig iawn ohonynt sy'n edrych ar ei yrfa o safbwynt Cymreig. Ymhlith yr ychydig eithriadau ceir:

Rhagflaenydd:
Rhisiart III
Brenin Lloegr
22 Awst 148521 Ebrill 1509
Olynydd:
Harri VIII

Cyfeiriadau golygu

  1. Bosworth gan Chris Skidmore; Gwasg Phoenix (2013); tudalen 32.
  2. Mae Chris Skidmore, yn ei lyfr Bosworth: The Birth of the Tudors yn galw Harri'n Gymro sawl tro e.e. tud. 152. In desperation, each of their futures had become forged to a mysterious Welshman, who most had never even met.; tud. 154: For others, however, coming face to face with Henry, an unknown Welshman who many would probably heard of before....; tud. ... had little choice but to consider this unknown Welshman their candidate for the throne.
  3. Bosworth gan Chris Skidmore; Gwasg Phoenix (2013); tudalen 94/5.
  4. Bosworth gan Chris Skidmore; Gwasg Phoenix (2013); tudalen 32.
  5. Bosworth gan Chris Skidmore; Foenix Paperback (2013) tud. 76-9
  6. Bosworth gan Chris Skidmore; Foenix Paperback (2013) tud. 130-3
  7. Bosworth gan Chris Skidmore; Foenix Paperback (2013) tud. 98
  8. It is striking that, in the list of men attained for their support of Buckingham, not a single Welsh name is mentioned. Gweler Bosworth gan Chris Skidmore; Gwasg Phoenix (2013); tudalen 94/5.
  9. Skidmore, Chris (2013). Bosworth: The Birth of the Tudors. London: Phoenix / Orion Books. t. 224. ISBN 978-0-7538-2894-6. |access-date= requires |url= (help)
  10. Skidmore, Chris (2013). Bosworth: The Birth of the Tudors. London: Phoenix / Orion Books. t. 234. ISBN 978-0-7538-2894-6. |access-date= requires |url= (help)
  11. gutorglyn.net; Archifwyd 2019-11-05 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 4 Chwefror 2017.
  12. Cambridge County Geographies Flintshire; J. M. Edwards adalwyd 8 Chwefror 2017.