Bag te
Paced neu gwdyn bach, mandyllog wedi'i selio ac yn cynnwys deunydd planhigion sych, sy'n cael ei drochi mewn dŵr i wneud de neu trwyth, yw bag te (hefyd sach te neu cwdyn te). Dail te ( Camellia sinensis) a fyddai ynddo fel arfer, ond mae'r term yn cael ei ddefnyddio hefyd ar gyfer te llysieuol (tisanes) a wnaed o berlysiau neu sbeisys. Mae bagiau te gan amlaf yn cael eu gwneud o bapur hidlo neu blastig gradd-bwyd, neu weithiau sidan. Mae'r bag yn cynnwys y dail te tra bod y te yn cael ei drochi, gan ei gwneud yn haws gwaredu'r dail. Mae'n cyflawni'r un swyddogaeth â thrwythwr te. Mae gan rai bagiau te ddarn o linyn ynghlwm â label papur ar y brig sy'n helpu i gael gwared ar y bag tra hefyd yn arddangos y brand neu fath o de.
Math | product packaging |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mewn gwledydd lle mae'r defnydd o ddail rhydd yn fwy cyffredin, defnyddir y term "bag te" i ddisgrifio pecynnau papur neu ffoil ar gyfer dail rhydd. Maent fel arfer yn amlenni sgwâr neu betryal gydag enw'r brand, y blas a'r patrymau addurnol wedi'u hargraffu arnynt.
Mae'r arfer o bacio te mewn papur yn gallu cael ei olrhain yn ôl yn Tsieina i'r 8g, yn ystod brenhinllin Tang, pan gafodd papur ei blygu a'i wnïo i fagiau sgwâr i gadw blas ac arogl te. Yna byddai'r bagiau te papur yn cael eu pwytho o bob ochr i greu casys i gadw'r dail te.[1][2][3]
Cafodd y bagiau te modern cyntaf yn y Byd Gorllewinol eu gwneud o ddeunydd wedi'i wnïo â llaw; mae patentau bagiau te yn dyddio mor gynnar â 1903.[4] Gan ymddangos yn fasnachol am y tro cyntaf o gwmpas 1904, cafodd bagiau te eu marchnata'n llwyddiannus tua'r flwyddyn 1908 gan y mewnforiwr te a choffi Thomas Sullivan o Efrog Newydd, a gludodd ei fagiau te sidan o amgylch y byd.[5] Roedd cwsmeriaid yn bwriadu tynnu'r te rhydd o'r bagiau, ond roedd yn haws iddynt fragu'r te gyda'r te a oedd yn dal wedi'i amgáu yn y bagiau mandyllog.[6] Dyfeisiwyd y peiriant pacio bagiau te cyntaf ym 1929 gan Adolf Rambold ar gyfer y cwmni Almaenaidd Teekanne .[7]
Rhoddwyd patent ar y bag te ffibr papur wedi'i selio â gwres ym 1930 gan William Hermanson,[8] un o sefydlwyr Papurau Technegol Corporation Boston, a werthodd ei batent i Gwmni Te Salada.
Ni ddyfeisiwyd y bag te hirsgwar hyd 1944. Cyn hynny, roedd bagiau te yn debyg i sachau bach.[9]
Yn draddodiadol, mae bagiau te wedi bod yn sgwâr neu'n hirsgwar. Yn fwy diweddar mae bagiau crwn a bagiau tetrahedrol wedi dod ar y farchnad ac yn aml mae eu gwneuthurwyr yn honni eu bod yn gwella ansawdd y baned. Mae'n well gan amgylcheddwyr sidan i neilon am resymau iechyd a bioddiraddadwyedd.[10] Deunydd arall sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer bagiau te yw Soilon (rhwyll PLA), wedi'i wneud o startsh corn.[11] Mae bagiau te gwag hefyd ar gael i ddefnyddwyr eu llenwi gyda'u dail te eu hunain. Mae'r rhain fel arfer yn fagiau penagored gyda fflapiau hir. Mae'r bagiau yn cael ei lenwi â'r maint priodol o de dail ac mae'r fflap yn cael ei gau i gadw'r te ynddo. Mae bagiau te o'r fath yn cyfuno rhwyddineb defnyddio bag te a gynhyrchir yn fasnachol gyda'r dewis ehangach o de, a rheolaeth well o ddail te rhydd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Tsien, Tsuen-Hsuin (1985). Paper and Printing. Joseph Needham, Science and Civilisation in China, Chemistry and Chemical Technology. Vol. 5 part 1. Cambridge University Press. t. 122.
- ↑ "Facts About Tea Bags". Darjeerling Tea Boutique.
- ↑ Lloyd, Christopher (2009). What on Earth Happened?... in Brief: The Planet, Life and People from the Big Bang to the Present Day. Bloomsbury Publishing. ISBN 978-1408802168.
- ↑ "Tea-leaf holder". USPTO. Cyrchwyd 25 October 2013. US patent 723287 was issued on MAR. 24, 1903 to R. G.LAWSON & M. McLAREN for a 'novel tea-holding pocket constructed of open-mesh woven fabric, inexpensively made of cotton thread'.
- ↑ Begley, Sarah (3 September 2015). "The History of the Tea Bag" (yn Saesneg).
- ↑ Editors, Time-Life (1991). Inventive Genius. New York: Time-Life Books. t. 99. ISBN 0-8094-7699-1.CS1 maint: extra text: authors list (link)
- ↑ Rexing, Bernd (2011-05-14). "14. Mai 1996 - Teebeutel-Entwickler Adolf Rambold stirbt" (yn Almaeneg). Cyrchwyd 2018-08-03.
- ↑ Bloxham, Andy (2008-06-13). "Tea bag to celebrate its century". Telegraph.co.uk. Cyrchwyd 2009-07-15.
- ↑ Dubrin, Beverly (2010). Tea Culture: History, Traditions, Celebrations, Recipes & More. Charlesbridge Publishing, p. 35. ISBN 1607343630
- ↑ Fabricant, Florence (September 13, 2006). "Tea's Got a Brand New Bag". The New York Times.
- ↑ "Tea Stick Brewing Package and Method". Freepatentsonline.com. Cyrchwyd 2018-08-16.