Caiff plastig ei wneud allan o hydrocarbonau ac fe'i cynhyrchir ar ffurf dwysedd uchel ac isel.

Plastig
Enghraifft o'r canlynoldefnydd organig Edit this on Wikidata
Mathdeunydd Edit this on Wikidata
DeunyddTanwydd ffosil, polymer Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Llygredd plastig golygu

Llygredd plastig yw cronni gwrthrychau plastig er enghraifft poteli dwr neu wrthrychau bob dydd sy'n effeithio ar ein tir ac amgylchedd y Ddaear, yn enwedig ar fywyd gwyllt a bodau dynol. Mae plastigiau sy'n cael eu categorio yn 'llygredd' yn cael ei ddosbarthu i fewn i dri grŵp gwahanol sef micro, meso, neu facro, yn ddibynol ar y maint. Mae canlyniadau gwaith ymchwil yn dangos bod tua 8.3 biliwn o dunelli o blastig wedi cael eu cynhyrchu ers y 1950au - mae hynny'n gyfwerth â phwysau mwy na 800,000 o Dyrrau Eiffel, a dim ond 9% o'r canlyniad yna sydd wedi cael ei ail-gylchu. Ar gyfartaledd mae bodau dynol yn bwyta 70,000 o ficroplastigion bob blwyddyn.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.