Trwythiad llysieuol neu blanhigyn yw te llysieuol. Mae'n wahanol i'r te a yfir fel 'te brecwast' a wneir gyda dail Camellia sinensis. Fel diodydd eraill a wneir gyda'r llwyn te, paratoir te llysieuol drwy gymysgu dŵr poeth â ffrwythau, dail, gwreiddiau, neu ronynnau. Gellir yfed y ddiod yn oer neu'n boeth.

Te llysieuol
Mathdiod boeth, infusion, medicinal tea, tea Edit this on Wikidata
Deunydddŵr poeth, perlysieuyn, sbeis, deunydd planhigion Edit this on Wikidata
Yn cynnwysfloral tea Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Te llysieuol

Cyfansoddiad

golygu

Gellir creu te llysieuol gyda blodau ffres neu wedi'u sychu, dail, hadau neu wreiddiau drwy arllwys dŵr berw ar ben rhannau'r planhigion a gadael iddynt drwytho am ychydig funudau. Gellir berwi hadau a gwreiddiau hefyd ar ffwrn. Mae'r te wedyn yn cael ei hidlo, melysu a ddymunir, a'i yfed. Mae llawer o gwmnïau yn cynhyrchu bagiau te llysieuol ar gyfer trwythau o'r fath.

Paratoir te blas (flavored tea) drwy ychwanegu planhigion eraill at de gwirioneddol (te du, ŵlong, gwyrdd, melyn, neu wyn); er enghraifft, mae'r te poblogaidd Iarll Llwyd yn de du gyda bergamot (yr olew oren, nid y perlysieuyn o'r un enw), mae te jasmin yn de Tsieineaidd gyda blodau jasmin, ac mae te genmaicha yn de gwyrdd Japaneaidd gyda reis wedi'u tostio.

Cyfeiriadau

golygu