Crefydd a sefydlwyd yn y 19g yw'r grefydd Bahá'í neu'r Ffydd Bahá'í; mae "Bahá'í" (Farsi: بهائی) mewn gwirionedd yn ansoddair yn disgrifio'r grefydd yn hytrach nag enw'r grefydd ei hun, gall hefyd ddisgrifio unigolyn sy'n ddilynwr Bahá'u'lláh. Sefydlwyd hi gan Bahá'u'lláh ym Mhersia, ac erbyn hyn mae ganddi bump neu chwe miliwn o ddilynwyr trwy'r byd.

Bahá'í
Enghraifft o'r canlynolcrefydd Edit this on Wikidata
MathCrefyddau Abrahamig Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluUnknown Edit this on Wikidata
SylfaenyddMīrzā Ḥoseyn ʻAlī Nūrī, Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://bahai.org, https://bahai.no Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Pencadlys Tŷ Cyffredinol Cyfiawnder, corff llywodraethol y Bahá'í, yn Haifa, Israel

Pwysleisia dysgeidiaeth Bahá'í undod ysbrydol dynoliaeth, ac undod sylfaenol yr holl brif grefyddau. Ystyrir fod olyniaeth o negeseuwyr, yn cynnwys Abraham, Moses, Zoroaster, y Buddha, Krishna, Iesu, Muhammad a'r diweddaraf, y Báb a Bahá'u'lláh. Credant fod bob negesydd wedi datgan y bydd y negesydd nesaf yn ei ddilyn.

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bahá'í. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.