Krishna
Duw a addolir mewn sawl traddodiad Hindŵaidd yw Krishna (Sansgrit: कृष्ण). Mae'n ffigwr canolog yn addoliad enwadau Vaishnaviaeth. Balarama yw ei "frawd hŷn" neu avatar cyntaf.
Enghraifft o'r canlynol | Hindu deity, ffigwr chwedlonol, character in the Mahabharata |
---|---|
Rhan o | Dashavatara |
Cyfres | Dashavatara |
Offerynnau cerdd | bansuri |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Am ystyron eraill gweler Krishna (gwahaniaethu).
Darlunir Krishna fel rheol fel dyn ifanc croen tywyll neu glas, neu fel baban, fel bugail gwartheg ifanc yn canu'r ffliwt, fel yn y Bhagavata Purana, neu fel tywysog ifanc sy'n rhoi cyngor athronyddol, e.e. fel cyfaill Arjuna yn y Bhagavad Gita (rhan o'r Mahabharata). Ei arf yw disgen (Sudarshana Chakra)ac mae'n marchogaeth Garuda.
Ceir nifer o chwedlau am Krishna mewn sawl traddodiad diwinyddol ac ysgol athroniaeth Hindŵaidd. Er bod y manylion yn amrywio yn ôl dysgeidiaeth y traddodiad, mae rhai elfennau yn ganolog. Mae'r rhain yn cynnwys ymgnawdoliad dwyfol (avatar), plentyndod a llencyndod fel bugail gwartheg yng nghanol natur, yn aml yng nghwmni merched hardd, a gyrfa fel rhyfelwr arwrol ac athro neu gynghorydd. Mae'n enwog am ei garwriaethau niferus ac mae ganddo bedwar cymar, sef y duwiesau Radha, Rukmini, Satyabhama a Janbavati.
Mae addoliad Krishna yn rhan o draddodiad Vaishnaviaeth, sy'n ystyried mai Vishnu yw'r Duw Goruchel ac yn addoli ei avatars cysylltiedig, eu cymheiriaid hwy, a'r seintiau ac athrawon a gysylltir â nhw. Credir fod Krishna yn ymgnawdoliad llawn o'r duw Vishnu ac felly'n un â Vishnu ei hun. Ond mae'r union berthynas rhwng Krishna a Vishnu, fel mae wedi datblygu dros y canrifoedd, yn gymhleth ac amrywiol, gyda llawer o'i addolwyr yn ei ystyried yn dduw ar wahân, yn Oruchel ynddo ei hun. Mae'r traddodiadau Vaishnavaidd i gyd yn cydnabod fod Krishna yn avatar o Vishnu; mae eraill yn uniaethu Krishna gyda Vishnu tra bod rhai traddodiadau neilltuol, fel Vaishnavieth Gaudiya, Vallabha Sampradaya a'r Nimbarka Sampradaya, yn gweld Krishna fel y svayam bhagavan, y Duw cysefin a thragwyddol, neu'r Arglwydd ei hun.
Nid yw addoliad Krishna a pharch ato yn gyfyngedig i Hindŵaeth. Mae Jainiaeth yn ei gyfrif yn un o'r Tirthankara. Mae'n ymddangos fel arwr un o chwedlau'r Jataka mewn Bwdhaeth. Mae'r Baha'i yn ei ystyried yn broffwyd yn llinach Abraham, Moses, Iesu, Mohamed ac eraill, yn cynnwys y Báb. Mae'r Gymuned Islamaidd Ahmadiyya yn ei ystyried yn broffwyd hefyd.