Y Grefydd Bahá'í yng Nghymru

Dechreuodd y Grefydd Bahá'í yng Nghymru yn fuan ar ôl yr Ail Ryfel Byd fel rhan o'r hyn a elwir gan ddilynwyr y Grefydd Bahá'í yn "fudiad yr arloeswyr" pan symudodd tua 60% o Bahá'íaid gwledydd Prydain i ymgartrefu o'r newydd ac ymledu'r ffydd.[1] Roedd hynny'n cynnwys sefydlu'r ffydd Bahá'í yng Nghymru. Arolygir a threfnir y ffydd yng Nghymru gan Gyngor Baha'i Cymru.[2]

Y dilynydd Bahá'í cyntaf i ymsefydlu yng Nghymru oedd Rose Jones, a symudodd i Gaerdydd o Lundain yn 1942.[3] Yn 1947 ymunodd Joan Giddings â hi. Yn 1948 sefydlwyd y Cynulliad Ysbrydol Lleol (sef yr enw Bahá'í am ganolfan addoli leol) cyntaf yng Nghymru yng Nghaerdydd. Yn 1961 cafwyd y Cynulliad Ysbrydol Lleol cyntaf i fod yn drwyadl Gymreig pan sefydlwyd canolfan ym Mhontypridd. Cyhoeddwyd y llenyddiaeth Bahá'í gyntaf yn y Gymraeg yn 1950.

Heddiw mae'r rhan fwyaf o ddilynwyr Bahá'í yn byw yn ne Cymru. Ceir cynyulliadau Bahá'í lleol yn Abercarn, Abertawe, Caerffili, Caerdydd, Caerfyrddin, Cas-gwent, Casnewydd, Conwy, Llanelli, Maesteg, Sir Fynwy a'r Wyddgrug.[4]

Sefydlasid Cynulliad Ysbrydol Cenedlaethol ar gyfer Prydain ac Iwerddon yn 1930, a gofrestrwyd fel elusen yn 1967, ac yn 1972 ymrannodd y cynulliad hwnnw yn ddau gydag un ar gyfer y DU a'r llall ar gyfer Gweriniaeth Iwerddon. Ar hyn o bryd does dim Cynulliad Ysbrydol Cenedlaethol ar gyfer Cymru na gwledydd eraill Prydain ar wahân.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan Treftadaeth Bahá'í yn y DU". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-02-26. Cyrchwyd 2009-04-06.: "The Bahá'í Faith in the United Kingdom - A Brief History"
  2. "Cyngor Baha'i Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-23. Cyrchwyd 2009-04-06.
  3. ""The Bahá'í Faith..."". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-02-26. Cyrchwyd 2009-04-06.
  4. "Gwefannau cymunedau Bahá'í yng Nghymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-29. Cyrchwyd 2009-04-06.

Dolenni allanol golygu