Ballarat
Mae Ballarat (Wathawurrungeg: Ballaarat) yn ddinas fawr yn nhalaith Victoria, Awstralia, gyda phoblogaeth o tua 90,000 o bobl.
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 116,201 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+10:00, UTC+11:00 |
Gefeilldref/i | Ainaro |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg Awstralia |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Awstralia |
Arwynebedd | 113.7 km² |
Uwch y môr | 435 metr |
Cyfesurynnau | 37.5608°S 143.8475°E |
Cod post | 3350 |
Eisteddfod Fwyaf Ewroasia
golyguCynhelir eisteddfod flynyddol yno ers 1891: y Royal South Street Eisteddfod,[1] sef The Grand National Eisteddfod of Australasia. Fe'i cychwynnwyd yn wreiddiol fel cystadleuaeth ddadlau, gan eu hymestyn yn flynyddol i siarad cyhoeddus, actio, cerddoriaeth a dawns.[2] Dywed gwefan yr eisteddfod mai dyma'r gystadleuaeth hiraf i'w rhedeg yn ddi-dor drwy Awstralia gyfan.[3]
Ers 1965 cynhaliwyd yr eisteddfod yn Theatr Ei Mawrhydi yn Ballarat; hwn yw theatr hynaf Awstralia sy'n dal i'w gynnal. Mae'n derbyn nawdd gan Lywodraeth Awstralia.
Ymhlith y cyn-enillwyr y mae:
Aur
golyguDarganfuwyd aur yn yr ardal rhwng Ballarat a Bendigo, yng nghanolbarth Victoria ym 1851.
Dolen allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gareth Glyn (cyn-gyflwynydd 'Post Prynhawn' Radio Cymru); Rhagfyr 2014
- ↑ 2009 Annual Report, Royal South Street Society
- ↑ www.royalsouthstreet.com.au adalwyd 19 Rhagfyr 2014