Baner Antilles yr Iseldiroedd
Maes gwyn gyda stribed coch fertigol a orgyffwrddir gan stribed glas llorweddol gyda phum seren wen yn ei ganol yw baner Antilles yr Iseldiroedd. Daw'r lliwiau o faner yr Iseldiroedd, ac mae'r sêr yn cynrychioli grwpiau ynysoedd y diriogaeth. Mabwysiadwyd yn 1959; yn wreiddiol roedd chwe seren, ond newidiwyd hyn i bump pan adawodd Arwba yn 1986.
Ffynonellau
golygu- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)