Baner Bwrcina Ffaso

Baner ddeuliw lorweddol, gyda stribed uwch coch a stribed is gwyrdd, â seren felen yn ei chanol yw baner Bwrcina Ffaso.

Baner Bwrcina Ffaso

Mabwysiadwyd y faner ar 4 Awst 1984, y diwrnod newidodd enw y wlad o Weriniaeth y Folta i Bwrcina Ffaso, ac yn union un flwyddyn ar ôl y chwyldro a ddaeth â Thomas Sankara i rym. Mae coch, melyn, a gwyrdd yn lliwiau pan-Affricanaidd; yn ogystal, mae coch yn symboleiddio chwyldro 1983, gwyrdd yn cynrychioli cyfoeth y wlad o adnoddau naturiol, a dywed taw seren arweiniol y chwyldro sydd yng nghanol y faner.

Seiliwyd lliwiau'r faner ar liwiau baner Ethiopia a ddaeth yn liwiau'r mudiad Pan-Affricanaidd dros fudiadau annibyniaeth i bobloedd ddu y cyfandir, a thu hwnt.

Gweler hefyd

golygu

ffynonellau

golygu
  • Complete Flags of the World (Dorling Kindersley, 2002)