Gwyrdd
lliw
Lliw yw gwyrdd, yn cyfateb i olau â thonfedd o dua 520–570 nanomedr. Mae'n un o'r lliwiau primaidd ynghyd â coch a glas.
![]() | |
Enghraifft o: | lliw primaidd ![]() |
---|---|
Math | goleuni, lliw ![]() |
Rhan o | 7-liw'r enfys ![]() |
Rhagflaenwyd gan | melyn ![]() |
Olynwyd gan | glas ![]() |
![]() |
Symbolaeth
golyguMae'r lliw gwyrdd yn cynrychioli byd planhigion a thyfiant Natur, yn enwedig yn y gwanwyn.
Yn Tsieina mae'n gysylltiedig â mellt a hirhoedledd. Yng nghrefydd Islam, gwyrdd yw lliw ffyniant ysbrydol a materol, doethineb a'r proffwydi;[1] mae i'w weld yn aml ar faneri Islamaidd a baneri cenedlaethol gwledydd Mwslim, e.e. baner Libya.
Yn symbolaeth Cristnogaeth mae gwyrdd yn cael ei gysylltu ac adnewyddu a gobaith; yn yr Oesoedd Canol roedd rhai artistiaid yn paentio croes Crist yn wyrdd fel arwydd o'r Atgyfodiad a'r gobaith o ddychwelyd i Eden.[2]
Cyfeiriadau
golygu