Baner Camerŵn

(Ailgyfeiriad o Baner Cameroon)

Baner drilliw fertigol gyda stribed chwith gwyrdd, stribed dde melyn a stribed canol coch gyda seren felen yn ei ganol yw baner Camerŵn. Cynrychiola gobaith gan wyrdd, undod gan goch a'r seren, a ffyniant gan felyn; mae'r lliwiau hefyd yn lliwiau pan-Affricanaidd.

Baner Camerŵn

Trefedigaeth Almaenig oedd Kamerun o 1884 i 1916 cyn y rhannwyd rhwng Ffrainc a Phrydain yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth yr ardal Ffrengig, Camerŵn, yn ymreolaethol ar 1 Ionawr 1959 ac yna'n annibynnol ar 1 Ionawr 1960 a mabwysiadwyd baner drilliw werdd-goch-felen yn seiliedig ar Tricolore Ffrainc; hon oedd yr ail faner genedlaethol yng Ngorllewin Affrica i ddefnyddio'r lliwiau pan-Affricanaidd, ar ôl Ghana, a seiliwyd ei hun lliwiau'r faner ar liwiau baner Ethiopia a ddaeth yn liwiau'r mudiad Pan-Affricanaidd dros fudiadau annibyniaeth i bobloedd ddu y cyfandir, a thu hwnt.

Yn 1961 ymunodd yr ardal Brydeinig, Southern Cameroons, â'r gyn-drefedigaeth Ffrengig i ffurfio Gweriniaeth Camerŵn, ac ychwanegwyd dwy seren felen yn hanner uchaf y stribed gwyrdd. Ar 20 Mai 1975 mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol: diddymwyd y ddwy seren a gosodwyd seren unigol yng nghanol y faner i symboleiddio undod y wladwriaeth newydd.


Baneri Eraill

golygu

Ffynonellau

golygu
  • Complete Flags of the World (Llundain: Dorling Kindersley, 2002)