Baner o ddau stribed coch gyda stribed gwyn â deilen masarnen, arwyddlun cenedlaethol Canada ers 150 mlynedd, coch rhyngddynt yw baner Canada. Mae'r coch yn cynrychioli aberth milwyr Canadaidd y Rhyfel Byd Cyntaf, a'r gwyn yn cynrychioli gogledd eiraog y wlad.

Baner Canada
Pearson's Pennant

Am flynyddoedd nid oedd gan Ganada baner genedlaethol a bu'n defnyddio fersiwn ei hunan o Luman Coch Prydain gyda tharian arfbais Canada yn y fly. Yn y 1960au cynnar cynyddodd gefnogaeth am faner unigryw. Bu'r dyluniad gwreiddiol, a alwyd yn Pearson's Pennant (Penwn Pearson), yn defnyddio tair deilen masarnen i gynrychioli Canada, gyda stribed glas ar naill ochr i gynrychioli'r cefnforoedd Tawel ac Iwerydd. Gelir y rhan gwyn rhwng y ddau ochr goch yn y faner yn Palo Canadaidd ('Canadian Pale') - palo yw'r enw banereg ar rhan ganol mewn baner trilliw neu drirhan fertigol. Ni chefnogwyd y faner hon gan lawer, a chytunwyd y mwyafrif i gael baner gyda'r ddeilen masarnen a'r lliwiau cenedlaethol. Mabwysiadwyd y faner gyfredol ar 15 Chwefror, 1965.

Ffynonellau golygu

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ganada. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato