Baner Cernyw
Baner cenedlaethol Cernyw yw Baner Cernyw neu Baner Sant Piran. Mae Sant Piran (neu Sant Peran) yn un o ddau nawddsant Cernyw: ar y cyd â Petroc. Dethlir ei ŵyl mabsant ar 5 Mawrth. Abad oedd Piran, o'r chweched ganrif, o dras Wyddelig (fel Ciarán - y 'P' Gymraeg yn troi yn 'C' Gwyddeleg).
Mae baner Piran yn groes wen ar gefndir du, gyda'r gwyn yn cynrychioli alcam/tun. Mewn chwedloniaeth Cernyweg, dywedir i'r Sant ddarganfod sut i greu tun, ac mai'r metal tawdd yw'r lliw du sydd yn y faner.
Cariwyd y faner hon gan filwyr o Gernyw ym Mrwydr Agincourt yn 1415.