Gŵyl Mabsant

(Ailgyfeiriad o Gŵyl mabsant)

Gŵyl Mabsant (neu Gwylmabsant, Gŵyl Fabsant[1]) yw'r ŵyl a gysylltid â sant eglwys blwyf yng Nghymru, yn arbennig yn y cyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd er mai gŵyl baganaidd ydoedd yn wreiddiol yn ôl Hugh Evans awdur Cwm Eithin.

Roedd yr Ŵyl Mabsant yn un o achlysuron cymdeithasol pwysicaf y flwyddyn i'r plwyfolion. Roedd yn cael ei dathlu â chanu a dawnsio a dirywiai weithiau'n rhialtwch afreolus. Cynhelid ffeiriau mewn rhai plwyfi a byddai'r dathlu'n parhau am wythnos weithiau, er mai un diwrnod arbennig oedd yr ŵyl ei hun. Canolbwynt yr ŵyl oedd llan yr eglwys leol fel arfer.

Gyda threigliad amser collwyd ystyr crefyddol yr ŵyl ac fe aeth yn achlysur seciwlar yn bennaf gyda'r pwyslais ar wledda, yfed a gorchestion ymladd a mabolgampau o ganlyniad i hynny. Ar Ynys Môn, er enghraifft, byddai pobl yn trefnu rasys i ddynion a cheffylau gyda phobl yn betio ar y canlyniad. Arferid cystadlu ar y pedwar camp ar hugain hefyd.

Roedd yr Ymneilltuwyr - yn arbennig y Methodistiaid - yn feirniadol iawn o'r gwyliau mabsant am eu bod yn cynrychioli "tywyllwch" yr oes Gatholig a theyrnasiad "ofergoelion Pabyddol".

Cysylltir yr Ŵyl Mabsant â'r baledi poblogaidd hefyd. Roedd yn amser da i Faledwyr Cymreig werthu eu cerddi. Mae nifer o gerddi rhydd y cyfnod o'r unfed ganrif ar bymtheg hyd ddiwedd y ddeunawfed yn gerddi i'w canu yn y gwyliau mabsant. Yn ôl William Morris chwaraewyd anterliwt yng Ngwylmabsant Tudno, plwyf Llanwoddan, 'a charreg fawr ysgwâr a thywarch rhyd-ddi ydoedd y stage...'. Mae digon o dystiolaeth ar gael fod chwarae anterliwt yn rhan o'r ŵyl mewn rhannau eraill o Gymru yn ogystal.

Cofnod disgrifiadol o'r hen ŵyl golygu

Yn ei lyfr Celtic Folklore: Welsh and Manx dywed yr Athro Syr John Rhŷs i un Mr William Jones o Langollen sôn am Ŵyl Fabsant Beddgelert fel hyn: Digwyddodd y gwyliau hyn yn union fel yr un rwy wedi ei weld yn 1869 yn Heidelberg pan roedd y trigolion lleol yn dathlu "kermess" neu "kirchmesse" sef un o'u seintiau. Gŵyl o ddawnsio ac yfed cwrw ydoedd. Yn aml, oherwydd od y gwyliau hyn mor boblogaidd roedd yn rhaid wrth ychwaneg o wlâu a gelwid y gwelyau hyn yn "gwely g'l'absant". [1]

Dywed Marie Trevelyan: "Mal Santau" oedd un o'r enwau arni ac arferid eu cynnal ar ddyddiau pwysig megis Dydd Gŵyl Dewi. Roedd yno orchestion megis mabolgampau, dawnsio, canu a llawer mwy. Deuai chwaraewyr ffidil a thelyn yno o bob cyfeiriad. Cynhaliwyd rhai ohonynt yn neuadd y dref neu'r pentref, ond fel arfer yn y dafarn leol neu ysgubor. [2]

Yn ôl Robert Jones, Rhos Lan: Yr oedd mewn llawer o ardaloedd un Sul penodol yn y flwyddyn a elwid gwylmabsant (un gair, sylwer) ac roedd hwnnw yn un o brif wyliau'r diafol; casglai ynghyd at eu cyfeillion liaws o ieuenctid gwamal o bell ac agos i wledda, meddwi, canu, dawnsio a phob gloddest arall. Parhâi'r cyfarfod hwn yn gyffredin o brynhawn Sadwrn hyd nos Fawrth.[1]

Disgrifiad ar gerdd (1859) golygu

Cyhoeddwyd y gerdd ganlynol gan Eos Iâl, yn "Nrych y Cribddeiliwr" yn 1859[3][4]:

Ymgasglant ar y Suliau

I lan, neu bentre,

I chwarae tennis,

A bowlio Ceulus,

Actio Anterliwtiau,

Morrus dawns a chardiau,

Canu a dawnsio,

Chwarae pel a phitsio,

Taflu maen a throsol,

Gyda gorchest ryfeddol,

Dogio cath glap,

Dal llygoden mewn trap,

Cogio ysgyfarnog,

Ymladd ceiliogod,

Chwarae dinglen donglen,

Gwneud ras rhwng dwy falwen.

Jympio am yr ucha,

Neidio am y pella,

Rhedeg am y cynta,

Jogio am y pella,

Saethu am y cosa,

Bexio am y trecha.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Cwm Eithin gan Hugh Evans, Gwasg y Brython, 1931.
  2. Glimpses of Welsh Life and Character gan Marie Trevelyan, Llundain, 1893
  3. Drych y Cribddeiliwr gan Eos Iâl, 1859
  4. O Ferwyn i Fynyllod gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 117.

Llyfryddiaeth golygu

  • J. E. Caerwyn-Williams (gol.), Llên a Llafar Môn (Llangefni, 1963)
  • G. J. Williams, 'Glamorgan Customs in the Eighteenth Century', yn Gwerin (cyf. 1, 1957)