Baner Ffederasiwn Mali

Mabwysiadwyd baner Ffederasiwn Mali ym 1959 pan unwyd tiriogaethau Senegal Ffrengig a'r Swdan Ffrengig i ffurfio Ffederasiwn Mali o fewn Cymuned Ffrainc. Seiliwyd ar faner Ghana gan ddilyn arddull baner drilliw Ffrainc, gyda tri stribed o'r lliwiau pan-Affricanaidd, gwyrdd, melyn, a choch.[1] Yng nghanol y stribed melyn mae kanaga, symbol ddu o berson a ymddangosodd ar faner y Swdan Ffrengig.

Baner Ffederasiwn Mali
Enghraifft o'r canlynolbaner cenedlaethol Edit this on Wikidata
Baner Ffederasiwn Mali

Enillodd y Ffederasiwn annibyniaeth ar Ffrainc ar 20 Mehefin 1960. Ymwahanodd Senegal a Mali yn hwyrach y flwyddyn honno ond parhaodd Mali i ddefnyddio'r faner hyd fabwysiadu baner Mali ar 1 Mawrth 1961.[1] Mae baner Mali yn debyg i faner y Ffederasiwn ond heb y kanaga, ac mae gan faner Senegal seren werdd yn ei chanol yn lle'r kanaga.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Complete Flags of the World (Llundain, Dorling Kindersley, 2002), t. 77.