Mali
Gwlad yng Ngorllewin Affrica yw Gweriniaeth Mali, neu Mali yn syml (yn Ffrangeg: République du Mali). Ei henw cyn annibyniaeth oedd Soudan français (Swdan Ffrengig). Y gwledydd cyfagos yw Algeria i'r gogledd, Senegal a Mauritania i'r gorllewin, Gini i'r de-orllewin, Bwrcina Ffaso ac y Traeth Ifori i'r de, a Niger i’r dwyrain. Mae'n weriniaeth annibynnol ers 1960. Prifddinas Mali yw Bamako. Y prif grwpiau ethnig yw'r Bambara, y Fulani a'r Senufo.
Gweriniaeth Mali ߡߊ߬ߟߌ ߞߊ ߝߊߛߏߖߊߡߊߣߊ (Bambareg) (ynganiad: Mali ka Fasojamana) | |
Arwyddair | Un bobl, un nod, un ffydd |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad |
Enwyd ar ôl | Ymerodraeth Mali |
Prifddinas | Bamako |
Poblogaeth | 20,250,833 |
Sefydlwyd | 1235 (Ymderodraeth Mali) 20 Mehefin 1960 (Annibyniaeth oddi wrth Ffrainc) |
Anthem | Pour l'Afrique et pour toi |
Pennaeth llywodraeth | Choguel Kokalla Maïga |
Cylchfa amser | UTC+00:00, Africa/Bamako |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Bambara, Bobo, Bozo, Dogon, Ffwlareg, Arabeg Hassaniya, Kassonke, Maninka, Minyanka, Ieithoedd Senufo, Ieithoedd Songhay, Soninke, Tamasheq |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gorllewin Affrica |
Gwlad | Mali |
Arwynebedd | 1,240,192 km² |
Yn ffinio gyda | Algeria, Niger, Bwrcina Ffaso, Y Traeth Ifori, Gini, Senegal, Mawritania |
Cyfesurynnau | 17°N 4°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Mali |
Pennaeth y wladwriaeth | Assimi Goïta |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Mali |
Pennaeth y Llywodraeth | Choguel Kokalla Maïga |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $19,309 million, $18,827 million |
Arian | franc CFA Gorllein Affrica |
Canran y diwaith | 8 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 6.229 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.428 |
Daearyddiaeth
golygu- Prif: Daearyddiaeth Mali
Heb unrhyw arfordir, mae Mali yn wlad tirgaeedig. Mae rhan helaeth o ogledd a chanolbarth y wlad yn dir anial, sy'n rhan o Anialwch y Sahara; yn y de ceir tir savannah sych (sy'n rhan o'r Sahel) a fforestydd trofaol. Mae bywyd gwyllt y de yn atyniad twristaidd heddiw. Mae Afon Niger yn rhedeg ar draws y wlad fel bwa o'r gorllewin i'r dwyrain ac mae'r prif drefi i'w cael ar hyd ei glannau. Rhwng Ségou a Tombouctou mae'r afon yn troi'n ddelta dŵr croyw sylweddol gyda gwelyau alwfial.
Mae dros 90% o'r boblogaeth yn byw yn y canolbarth a'r de. Ar wahân i'r brifddinas Bamako, y prif drefi a dinasoedd yw Sikasso, Ségou, Mopti, Tombouctou (Timbuktu), Gao a Tessalit.
Hanes
golygu- Prif: Hanes Mali
O'r 4g ymlaen bu Mali'n rhan o sawl ymerodraeth yn olynol, yn cynnwys Ymerodraeth Ghana, Ymerodraeth Mali (Mansu Musa oedd ei hymerodr galluocaf) ac Ymerodraeth Gao.
O'r 11g ymlaen roedd Tombouctou (Timbuktu) yn ganolfan masnach a dysg bwysig. Erbyn y 14g roedd ei phrifysgol yn atynu ysgolheigion o bob cwrdd o'r byd Islamaidd.
Yn ystod y 19g cafodd ei meddiannu gan Ffrainc a'i hymgorffori yng Ngorllewin Affrica Ffrengig. Llwyddodd i ennill hunanlywodraeth fewnol yn 1958 fel rhan o'r Gymuned Ffrengig. Ffurfiodd wladwriaeth newydd gyda Senegal yn 1959 dan yr enw Ffederasiwn Mali ond aeth ei ffordd ei hun ar 22 Medi 1960 fel gwlad annibynnol.
Yn 2012, cipiwyd Tombouctou, Gao a threfi eraill yn y gogledd gan wrthryfelwyr Touareg. Dymchwelwyd yr arlywydd, Amadou Toumani Touré, gan grŵp o filwyr oherwydd ei ymateb i'r argyfwng.
Iaith a diwylliant
golyguFfrangeg yw'r unig iaith swyddogol ond mae nifer o bobl yn siarad ieithoedd brodorol fel eu mamiaith ac yn defnyddio Ffrangeg fel lingua franca; yr ieithoedd brodorol pwysicaf yw Bamakan a'r ieithoedd Mandé.
Mae'r grwpiau ethnig yn cynnwys y Bambara, y Senufo a'r Fulani, a'r Touareg yn y gogledd. Mae mwyafrif y boblogaeth yn Fwslemiaid.
Mae dinasoedd Mopti, Tombouctou a Bamako yn adnabyddus am eu pensaernïaeth draddodiadol unigryw sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol.
Economi
golyguMae Mali yn un o wledydd tlotaf y byd. Mae nifer o Falïaid yn gorfod gadael y wlad i gael gwaith mewn gwledydd mwy cyfoethog fel Nigeria. Mae dros 80% o'r boblogaeth yn ennill bywoliaeth trwy amaethyddiaeth.
Ers degawdau mae anialu yn broblem gynyddol ac effeithir amaeth yn ardal y safana gan sychder yn aml. Codi anifeiliaid gan nomadiaid sy'n bwysig yn y Sahel ac mae pysgota yn y delta a'r llynnoedd yn bwysig yn ogystal.
Mae'r rhan fwyaf o'r sector diwydiannol yn cynhyrchu nwyddau ar gyfer y sector amaeth domestig. Mae Mali yn ddibynnol iawn ar gymorth tramor.
Rhanbarthau
golyguRhennir Mali yn wyth rhanbarth ac un ardal. Maen hw'n cael eu henwi ar ôl eu tref bwysicaf.
Ceir tair rhanbarth yn y gogledd sy'n cynrychioli dau draean o arwynebedd tir y wlad ond dim ond 10% o'r boblogaeth sy'n byw yno:
Yn y de mae'r wlad yn cael ei rhannu'n bump rhanbarth, sef
Yn ogystal ceir un ardal o gwmpas y brifddinas: