Baner drilliw fertigol o stribedi gwyrdd, melyn, a choch gyda seren werdd yng nghanol y stribed canolog melyn yw baner Senegal. Lliwiau pan-Affricanaidd yw gwyrdd, melyn, a choch; symbol undod a gobaith yw'r seren; ac mae'r dyluniad yn seiliedig ar Tricolore Ffrainc. Mabwysiadwyd ym Medi 1960 yn sgîl annibyniaeth Senegal ar Ffrainc.

Baner Senegal

Seiliwyd lliwiau'r faner ar liwiau baner Ethiopia a ddaeth yn liwiau'r mudiad Pan-Affricanaidd dros fudiadau annibyniaeth i bobloedd ddu y cyfandir, a thu hwnt.

Ffynonellau

golygu
  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)