Baner Gabon
Baner drilliw lorweddol o stribedi gwyrdd a melyn, i gynrychioli adnoddau naturiol Gabon (yn enwedig ei choed), a glas, i gynrychioli'r môr, yw baner Gabon. Mabwysiadwyd ar 9 Awst, 1960; y flwyddyn cyn, defnyddiwyd baner debyg fel y faner genedlaethol swyddogol. Roedd ganddi stribedi o'r un lliwiau, ond roedd yr un melyn llawer mwy cul, ac roedd y faner Ffrengig yn y canton. Rhoddwyd y gorau i'r dyluniad hwn yn sgil annibyniaeth oddi ar Ffrainc.
ffynonellau
golygu- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)