Maes gwyn gyda chroes goch a phedair croes goch lai yn y chwarteri yw baner Georgia. Gelwir y dyluniad yn "Faner y pum croes". Mae hanes y faner hon yn ymestyn yn ôl canrifoedd i oes ffiwdal Georgia. Hon yw baner y Mudiad Cenedlaethol Unedig, oedd ar flaen y gad yn ystod Chwyldro'r Rhosynnau, chwyldro heddychlon yn 2003 wnaeth llwyddo i ddisodli'r Arlywydd Eduard Shevardnadze. Arweinydd y Mudiad oedd Mikhail Saakashvili, a enillodd etholiad arlywyddol yn Ionawr 2004. Mabwysiadwyd faner y Mudiad fel baner genedlaethol Georgia ar 14 Ionawr, 2004.

Baner Georgia
Enghraifft o'r canlynolbaner cenedlaethol Edit this on Wikidata
Lliw/iaugwyn, coch Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu14 Ionawr 2004 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner Georgia

Cyn-faneri Georgia golygu

Gweriniaeth Ddemocrataidd Georgia (1918–1921) golygu

Yn 1917 cynhaliwyd gystadleuaeth i ddewis baner wladwriaethol Georgia; mabwysiadwyd yr enillydd yn ystod ei gyfnod byr o annibyniaeth fel Gweriniaeth Ddemocrataidd Georgia rhwng 1918 a 1921.

Roedd gan y faner hon faes coch tywyll – lliw cenedlaethol Georgia (sy'n symboleiddio agweddau dedwydd hanes y wlad) – gyda'r canton wedi'i rannu'n ddau: yr hanner uwch yn ddu (i gynrychioli hanes trasig y wlad) a'r hanner is yn wyn (i gynrychioli gobaith am ddyfodol Georgia).

Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Georgia (1921–1990) golygu

Yn ystod y cyfnod Sofietaidd, mabwysiadwyd nifer o fersiynau o'r Faner Goch oedd yn cynnwys amrywiadau ar enw Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Georgia wedi'u hysgrifennu mewn aur ar faes coch.

Rhwng 1951 a 1990, defnyddiwyd dyluniad o faes coch gyda streipen las denau yn agos at frig y faner, a symbolau Comiwnyddol traddodiadol y morthwyl a'r cryman a'r seren yn y canton. Roedd y faner hon yn wahanol i faneri'r Gweriniaethau Sosialaidd Sofietaidd eraill oherwydd coch, nid aur, oedd lliw'r morthwyl, y cryman, a'r seren. Amlinellant y symbolau gan gylch glas gyda 24 o belydrau glas yn disgleirio ohono.

Georgia (1990–2004) golygu

Ar 14 Tachwedd, 1990, rhyw saith mis ar ôl ennill annibyniaeth ar yr Undeb Sofietaidd ar 9 Ebrill, ail-fabwysiadwyd baner 1918 ond gyda dimensiynau wedi'u haddasu rhywfaint. Dywed yn y cyfnod hyn yr oedd coch tywyll y maes yn symboleiddio llawenydd yn ogystal â hanes dedwydd y wlad, fel y dywed yng nghyfnod Gweriniaeth Ddemocrataidd Georgia.

Ffynonellau golygu