Baner Japan
Baner o faes gwyn gyda chylch coch yn ei ganol yw baner Japan. Mae gwyn yn symboleiddio gonestrwydd a phurdeb, ac awgryma rhai bod coch yn cynrychioli gloywder, didwylledd, a chyfeillgarwch. Gelwir y cylch coch yn Hinomaru (Disg yr Haul); arwyddlun ymerodrol ers y 14g ydyw, ac mae wedi bod yn symbol cenedlaethol o Japan am filoedd o flynyddoedd; adnabyddir Japan fel "Gwlad yr Haul sy'n Codi". Mabwysiadwyd y faner gyfredol yn swyddogol ar 27 Ionawr, 1870.
Ffynonellau
golygu- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)