Baner Jibwti
Comisiynwyd baner Jibwti (Sillafiad Ffrangeg a Saesneg y wlad: baner Djibouti; Somalieg: Calanka Jabuuti; Arabeg: علم جيبوتي; Ffrangeg: Drapeau de Djibouti) yn swyddogol ar 27 Mehefin 1977.[1] Mae'r faner yn dangos triongl gwyn ar ochr y mast gyda seren bum pwynt coch ynddi; rhennir yr ymyl cyhwfan yn llorweddol yn ei hanner gyda hanner las las uwchben a hanner werdd isod.
Symbolaeth
golyguCeir ystyron a symbolaeth arbennig i'r lliwiau:
- Glas Golau - cynrychioli'r bobl Issa Somali (cymharer â lliw glas baner Somalia a hefyd y nôr glas
- Gwyrdd - pobl yr Afar a'r ddaear gwyrdd
- Gwyn - heddwch
- Seren goch - undod y wladwriaeth amrywiol. Mae pum pwynt y seren yn cynrychioli'r ardaloedd lle mae Somalïaid yn byw: Somaliland Brydeinig (Somalia), Somalia Eidalaidd (Somalia), Somalia Ffrengig (Jibwti), Ogaden (Ethiopia) ac ardal Ffiniol y Gogledd (Northern Border District) (Cenia). Gwyn, gwyrdd a glas golau - lliwiau'r mudiad yr LPAI.
Dyluniad
golyguMae'r faner bresennol yn addasiad o faner y Ligue Populaire Africaine pour l'Independence (LPAI) a arweiniodd ymdrech annibyniaeth Jibwti a oedd yn drefedigaeth Ffrengig. Roedd gan y faner LPAI driongl coch gyda seren wen. Ar gyfer y faner genedlaethol, a dderbyniwyd gydag annibyniaeth, gosodwyd y seren mewn safle unionsyth yn hytrach na'i ddal mewn safle cam ac addaswyd cymhareb y faner hefyd.[1]
Baneri Hanesyddol
golyguArddelwyd y baneri isod ar diriogaet bresennol Jibwti:
-
Baner Swltaniaeth Adal (1415–1577)
-
Baner Ymerodraeth yr Otomaniaid, a ddefnyddwyr pan oedd Eyalet (talait) Habesh yn cynnwys rhan o Jibwti gyfoes
-
Baner Ffrainc, rwng 1896 a 1977, pan adnabwyd y wlad fel Somalia Ffrengig ac yn drefedigaeth Ffrengig cyn annibyniaeth.
Dolenni
golygu- Jibwti gan Flags of the World.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Anjali Kamath. Flag Book. Popular Prakashan. t. 19. ISBN 978-81-7991-512-7.