Iaith Affro-Asiaidd yn y gangen Gwshitig sy'n tarddu o Gorn Affrica ac yn iaith frodorol y Somaliaid yw Somalieg.[2] Mae'n perthyn i is-gangen yr Iseldiroedd Dwyreiniol yr ieithoedd Cwshitig, ynghyd ag Afar a Saho.

Somalieg
Enghraifft o'r canlynoliaith naturiol, iaith fyw Edit this on Wikidata
MathSomali languages Edit this on Wikidata
Enw brodorolAf-Soomaali Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 16,200,000 (2019)[1]
  • cod ISO 639-1so Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-2som Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3som Edit this on Wikidata
    GwladwriaethJibwti, Ethiopia, Cenia, Somalia, Somaliland Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuyr wyddor Ladin, Wadaad's writing, Osmanya Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

    Siaredir Somalieg gan ryw 15 miliwn o bobl yn Nwyrain Affrica, y mwyafrif helaeth ohonynt yn Somaliaid ethnig. Somalieg yw prif iaith ac iaith swyddogol Somalia a Somaliland, un o ieithoedd swyddogol Jibwti, a phrif iaith yr Ardal Somali yn nwyrain Ethiopia a Thalaith y Gogledd Ddwyrain yng Nghenia. Bydd rhai cenedlaetholwyr Somali yn galw am uno'r holl diriogaethau lle siaredir Somalieg i greu Somalia Fawr.

    Mabwysiadwyd yr wyddor Ladin i ysgrifennu Somalieg yn y 1970au, ac erbyn heddiw dyma'r wyddor fwyaf gyffredin. Ceir hefyd ffyrdd o ysgrifennu Somalieg yn yr wyddor Arabeg a systemau arbennig a gawsant eu creu yn yr 20g.

    Tiriogaeth hanesyddol y Somaliaid a'r iaith Somalieg

    Cyfeiriadau

    golygu
    1. (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/, adalwyd 23 Ebrill 2022
    2.  Somalieg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 15 Mai 2018.