Ail-fabwysiadwyd baner Latfia ar 27 Chwefror, 1990; mae'n dyddio yn ôl i'r drydedd ganrif ar ddeg, a chafodd ei mabwysiadu'n swyddogol yn gyntaf yn 1922 ond gwaharddwyd o dan reolaeth Sofietaidd. Mae'n cynnwys tri stribed llorweddol: dau stribed llydan coch, sy'n cynrychioli parodrwydd y Latfiaid i amddiffyn eu rhyddid, a stribed cul gwyn yn y canol. Yn ôl chwedl, mae'r faner yn symboleiddio arweinwr Latfiaidd a anafwyd mewn brwydr: coch ei waed (yn ogystal â gwaed y genedl ei hun), a'r gwyn y lliain a ddefnyddiwyd i'w lapio.

Baner Latfia
Enghraifft o'r canlynolbaner cenedlaethol Edit this on Wikidata
Lliw/iaucarmine, gwyn Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu20 Ionawr 1923 Edit this on Wikidata
Genrehorizontal triband Edit this on Wikidata
Enw brodorolLatvijas karogs Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner Latfia

Ffynonellau golygu

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)