Baner Liberia
Mabwysiadwyd baner genedlaethol Liberia ar 26 Gorffennaf 1847,[1] ac mae'n seiliedig ar faner yr Unol Daleithiau gan adlewyrchu sefydliad Liberia fel mamwlad i gaethweision Affricanaidd-Americanaidd rhydd. Mae'r canton glas yn cynrychioli Affrica, a'r seren wen ynddi'n symboleiddio rhyddid yn tywynnu o'r "Cyfandir Tywyll". Mae'r 11 o stribedi coch a gwyn yn cynrychioli llofnodwyr Datganiad Annibyniaeth Liberia. 10:19 yw cymhareb y faner hon.[1][2] Yn ôl cyfansoddiad y wlad mae glas yn dynodi rhyddid, cyfiawnder a ffyddlondeb, mae gwyn yn symbol o burdeb, glendid a didwylledd, ac mae coch yn cynrychioli dycnwch, dewrder a brwdfrydedd.[3]
Baneri eraill
golygu-
Baner Gwasanaeth y Tollau Liberia
-
Ystondord Arlywydd Liberia
-
Baner Unol Daleithiau America (1837–1845), gyda 26 seren / talait a ddefnyddiwyd yn llywodraeth gyntaf Cymanwlad Liberia tan 26 Ebrill 1845
-
Baner Cymdeithas Wladychu Americanaidd (American Colonization Society)
-
Baner Gweriniaeth Maryland (Republic of Maryland) rhwng 1854 a 1857
Baneri Siroedd
golyguMae Liberia wedi ei isrannu i 15 sir, pob un gyda'r hawl i'w baner ei hun. Mae pob baner siroedd yn cynnwys y faner genedlaethol yn y canton. Ceir y baneri sirol eu hedfan o swyddfeydd rhanbarthol a gyda'i gilydd gyda'r faner genedlaethol, yn amgylchynu y Palas Arlywyddol.
Gyff Gwawd
golyguMae dyluniad baneri sirol Liberia yn destun gyff gwawd yn y maes baneriaeth a dylunio. Ceir sawl erthygl neu fideo [4] yn gwneud hwyl ar y diffyg cymuseredd, defnydd anghyffredin o liwiau a delweddau anaddas, neu, annisgwyl, ym maes dylunio baneri. Gellir dadlau hefyd bod nifer o'r baneri yn torri rheolau dylunio a lliw, gan gynnwys Rheol Tintur.
Serch hynny, dadleua eraill bod y dyluniadau yn adrodd hanes y siroedd; eu bod yn syml heb fod yn ddiflas fel baneri gwladfeydd Prydain neu faneri taleithiau yr Unol Daleithiau sy'n cynnwys ysgrifen; a nodir, os nad dim arall, bod y dyluniadau yn unigryw e.e. llain borffor baner sir Bomi.[5]
-
Baner sir Bomi
-
Baner sir Bong
-
Baner sir Gbarpolu
-
Baner sir Grand Bassa
-
Baner sir Grand Cape Mount
-
Baner sir Grand Gedeh
-
Baner sir Grand Kru
-
Baner sir Lofa
-
Baner sir Margibi
-
Baner sir Maryland
-
Baner sir Montserrado
-
Baner sir Nimba
-
Baner sir Rivercess
-
Baner sir River Gee
-
Baner sir Sinoe
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Complete Flags of the World (Llundain, Dorling Kindersley, 2002), t. 84.
- ↑ Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Anness, 2010), t. 218.
- ↑ (Saesneg) Flag of Liberia. The World Factbook. CIA. Adalwyd ar 4 Mehefin 2013.
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=RzPH4jNvuKA
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=Ys5BrgeUYXg
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Liberia (Flags of the World)