Rheol Tintur

rheolau a chanllawiau lliwiau arfbeisiau a baneri gan Humphrey Lhuyd

Rheol Tintur yw rheol sylfaenol dylunio herodraeth. Crynhwyd y rheol gan y Cymro Humphrey Lhuyd yn 1568 gyda'r dywediad syml: "ni ddylid roi metal ar fetal, na lliw ar liw". Golyga hyn na ddyliau lliwiau heraldaidd or nac argent (aur ac arian, neu mewn termau syml, gwyn a melyn) nac un o'r lliwiau arferol, azure, gules, sable, vert a purpure nac enghreifftiau prin eraill, cael eu rhoi ar liw arall. Gellir cael eithriadau i hyn ym maes defnydd o 'ffwr' heraldaidd (h.y. ermine, vair ac amrywiaethau eraill) yn ogystal â "proper" (prif ddelwedd yr arfbais, sy'n cadw'n driw at natur er enghrafft, afal goch ar goeden werdd, ond diffinnir hyn gan herald) ond mae'r rhain yn eithriadau i Reol Tintur.

Arfbais bwrdeistref Dobrzyca, Gwlad Pŵyl, sy'n cymdymffurfio gyda Rheol Tintur - metal ar liw (gwyn ar goch)

Dylanwad Gyfoes Rheol Tintur

golygu

Dilynir Rheol Tintur hyd heddiw y tu hwnt i faes herodraeth, ac mae'n wir ar gyfer dyluniad baneri cyfoes. Ail-luniwyd baner Saxe-Weimar-Eisenach er mwyn cydymffurfio gyda'r rheol.[1] Mae Rheol Tintur Humphrey Lhuyd yn un dylsai pob dylunydd baner, logo, eicon a symbol fod yn ymwybodol ohono, os nad ei ddilyn.

Gweithred

golygu

Prif bwrpas herodaeth (fel baneri a logos) yw i fod yn hawdd ei adnabod. Mae rhai cyfuniadau o liwiau yn anodd i'w gwahaniaethau er enghraifft, croes goch ar faes glas tywyll. Yn hyn o beth, mae hanner waelod baner Cymru, lle mae'r Ddraig yn gorwedd dros faes werdd dywyll, yn torri rheol tintur gan ei fod yn anodd i'w ddiffinio o bellter. Yn yr un modd, mae metal ar fetal (melyn ar gefndir gwyn, er enghraifft) yn anodd i'w diffinio a'u gweld o bellter. Dywdir weithiau mai un rheswm dros y rheol yma yw ei bod yn anodd paentio enamel (lliw) dros enamel arall.

Rhai Eithriadau

golygu
 
Arfbais Llywelyn ap Gruffydd, Tywysog Cymru - enghraifft o eithrad sy'n caniatáu lliw ar liw ar rhannau ansylweddol o gorff creadur

Dydy rhaniad syml amlwg rhwng dwy lain yn gorwedd wrth ymyl ei gilydd, ddim yn cael eu hystyried fel 'lliw ar liw'. Ond fe ddaw pethau'n fwy cymhleth lle ceir dyluniad mwy cymhleth gyda bariau (barry) neu siec (checky).[2]

Rhannau ansylweddol o'r Corff

golygu

Anwybyddir y Rheol, fel arfer, y ar gyfer rhanau bychain, ansylweddol o gorff anifail neu greadur sy'n chwarae rhan fel proper er enghraifft, tafod, cyrn, crafanc neu garn creadur. Gall rhain fod, er enghraifft, yn lew or ar lain azure on langued gules (llew aur ar lain glas a thafod goch.) os yw'r darnau yma o'r corff yn wahanol i liw'r prif gorff. Hynny yw, ystyrir y lliwiau yma yn atodiad i'r prif ddelwedd. Yn hynny o beth, mae crafangau glas a welir weithiau ar llew goch fathodyn brenhinol Cymru sydd ei hun yn seiliedig ar arfbais llys Gwynedd yn dderbyniol er ei fod, mewn gwirionedd yn torri Rheol Tintur wrth orwedd ar ben llain werdd hanner waelod arfbais neu faner Cymru.

Crest a Chefnogwyr

golygu
 
Arfbais Frenhinol Teyrnas yr Alban, enghraifft o Chefnogwr yn torri'r rheol metal ar fetal gyda torch coron am wddw'r uncorn

Gwneir eithriad i'r Rheol, yn nghyd-destun crest neu chefnogwyr, heblaw fod y crest neu'r cefnogwr ei hun yn rhan o'r llain neu'n cynnwys un neu fwy gwthrych. Ceir, er enghraifft, goler aur o gylch cefnogwr arian ac yn dderbyniol (fel gwelir ar gefnogwr uncorn ar fathodyn yr Teyrnas yr Alban a'r Deyrnas Unedig. Ond, mewn enghraifft lle ceir adennydd eryr eu defnyddio fel crest sydd gyda trefoil arno (fel yn arbais talaith Brandenburg) rhaid i'r terfoil ddilyn Rheol Tintur.

Cynrychiolydd Syml sy'n Ffinio Ochr y Darian

golygu

Eithriad arall yw lle caniateir mount vert neu'r ffurf syml gynrychioladol, 'trimount' ohono, bryncyn gwyrdd ar gefndir glas i gynrychioli'r awyr neu rhyw ffordd o ddarlunio'r môr, tonnau neu rhwybeth tebyg. Gwelir hyn ar arfbais genedlaethol a Hwngari, a Baner Slofacia sy'n defnyddio amrywiad arno, lle geir bryn tri pegwn (gweler isod). Yn yr achos yma, gwelir fod y llain yn gules (coch) ac, yn ôl Rheol Tintur, dylid peidio caniatau y bryn gwyrdd. Dadleir fod hyn yn dderbyniol gan fod y bryn yn cyffwrdd gwaelod y darian ac felly ddim yn 'charge' llawn, gan osgoi'r rheol. Yn wir, wrth edrych ar y arfbais, mae'r ffaith fod gwaelod y darian yn hytrach na bod yn charge yn y canol, yn gwneud gwahaniaeth ac yn haws i'r lygad ei adnabod.

Ffinio

golygu

Fimbriation mae ffinio'r charge gyda rhimyn denau yn gallu nacáu beth fyddai fel arall yn dramgwydd o'r Rheol. Gwelir hyn ym maner Jac yr Undeb Prydain, sydd, er yn faner yn dilyn egwyddorion heraldiaeth. Mae heraldiaeth Ffrengig hefyd yn defnyddio'r divise, band denau sy'n rhedeg oddi tan y chief, er mwyn nacáu'r rheol a gellir cael parallel fillet mewn heraldiaeth Seisnig.

Tor-rheol

golygu
 
"Argent a Cross potent rhwng pedwar Crosslets Or plaen" yn torri Rheol Tintur gan ei fod yn fetal ar fetal

Dilynir Rheol Tintur mor agos fel y gelwir arfbeisiau sy'n torri'r rheolau yn armes fausses (arfbeisiau ffals) neu armes à enquérir (arfbeisiau ymholi); tybir bod pob cam-weithredu yn bwrpasol ac yn cynnig i'r gwyliwr ofyn sut a pham y cawsant eu dewis a'u debryn.

Metal ar Fetal

golygu

Un o'r armes à enquérir enwocaf yw arfbais Brenin Caersalem a ddewiswyd gan Godfrey of Bouillon ac yna ei frawd Baldwin o Boulogne pan wnaethpwyd nhw'n frenhinoedd y ddinas sanctaidd. Mae gan yr arfbais bump croes aur ar lain wen (yn swyddogol, "Argent a Cross potent rhwng pedwar Crosslets Or plaen"). Mae'r defnydd yma o fetal ar fetal i'w weld ar arfbais Brenin Caersalem, Mitr Esgob yn yr arfbais a welir ynghannol baner Andorra, ac arfbais sir Nord-Trøndelag yn Norwy (sy'n seilidig ar arfbais Sant Olaf fel y disgrifir yn 'Sagas Snorri'). Ystyrir y ddyfais yma, er yn torri'r Rheol Tintur, yn eithriadau arbennig oherwydd statws arbenig y pwnc.

Ceir enghreifftiau eraill o dorri Rheol Titur sef baner Cyprus lle ceir siap yr ynys mewn melyn ar lain wen. Ac, os bu arfbais Draig Aur ar lian wen gan Owain Glyndŵr yna, yn ôl Jobbins [3], byddai hyn hefyd yn torri'r rheol. Er, mae'n dadlau mai annhebygol yn ei farn ef mai aur neu felyn fyddai'r ddraig, ond yn hytrach lliw yn agosach i'r hyn a fuasai'n cael ei alw'n fflamgoch neu oren mewn Cymraeg cyfoes.[4]

Fleur-de-Lys - roedd defnydd o'r Fluer-de-Lys aur ar lain wen gan frenihinoedd Ffrainc yn torri Rheol Tintur 'dim metal ar fetal' Humphrey Lhuyd.

Lliw ar Liw

golygu

Ceir enghreifftiau o dorri'r Rheol Tintur:

Baner Albania lle ceir eryr deu-ben sable ar lain gules. Ond, yn ôl rhai lenorion ar heraldiaeth Canol a Dwyrain Ewrop, ystyrir bod gan sable (du) briodweddau metal a lliw[*] ac nid yw un liw yn unig fel y'i gwelir yng ngorllewin Ewrop.[5] Gwelir felly nad yw cyfuniad o ddu-ar-liw yn anghyffredin. Yn wir, ceir enghraifft o hyn hefyd ar faner Cymru, lle mae'r Ddraig Goch yn aml â fimbriation ddu, sydd yn ei gwneud amlinelliad y ddraig yn gliriach pan fo'n gorwedd ar lain werth, ac yn gweithredu felly fel rhyw fath o fetal.
Baner Bangladesh - cylch (haul) goch ar lain werdd. Nid yn unig bod hwn yn torri Rheol Tintur ond mae hefyd yn gyfyniad anffodus o'r union ddau liw sy'n fwyaf cyffredin i bobl sy'n lliwddall.
Baner Gwlad y Basg - mae'r faner yn dilyn dyluniad baner Prydain ond heb y fimbriation gwyn sydd ar Jac yr Undeb. Mae'r groes saltire werdd ar lain goch felly yn torri Rheol Tintur yn amlwg iawn.
Baner Cymru - crêd Jobbins fod hanner waelod baner Cymru yn tramgwyddo Rheol Tintur, lliw ar liw.[6]
Baner Draig Aur Owain Glyndŵr - crêd Jobbins, fod baner Draig Aur Glyndŵr a godwyd yn ystor brwydr Twtil yn 1401 yn tramgwyddo'r Rheol Tintur.[6]
Arwyddlun Croeso Cymru - yn 2016 dadorchuddwyd arwyddlun newydd i gorff twristiaeth Cymru, sef, Croeso Cymru, sy'n rhan o brand cenedlaethol Lywodraeth Cymru.[7] Mae'r dyluniad yn hyrwyddo'r defnydd o'r ddraig goch ar lain ddu. Gan hynny, mae'n anodd i'w adnabod yn glir o bellter a gellir dadlau ei fod yn torri'r Rheol Tintur'r Cymro Humphrey Lhuyd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Grand Duchy of Saxe-Weimar-Eisenach 1813-1918 (Germany): Großherzogtum Sachsen-Weimar-Eisenach". Cyrchwyd 2018-09-28.
  2. https://www.heraldica.org/topics/tinctrul.htm
  3. t.28 'The Red Dragon: The story of the Welsh flag' (Siôn T. Jobbins, Gwasg y Lolfa, 2016|https://www.ylolfa.com/products/9781784611354/the-red-dragon-the-story-of-the-welsh-flag[dolen farw]
  4. t.83 The Red Dragon: The story of the Welsh flag (Siôn T. Jobbins, Gwasg y Lolfa, 2016)|https://www.ylolfa.com/products/9781784611354/the-red-dragon-the-story-of-the-welsh-flag[dolen farw]
  5. William Dwight Whitney & Benjamin Eli Smith (eds.) The Century Dictionary and Cyclopedia, revised ed., volume IX (New York: The Century Co.) page 6345.
  6. 6.0 6.1 https://www.ylolfa.com/products/9781784611354/the-red-dragon-the-story-of-the-welsh-flag[dolen farw]
  7. https://www.itsnicethat.com/articles/smorgasbord-wales-rebrand-cymru-150317

Dolenni allanol

golygu