Maes coch gyda Selnod Solomon (sef pentagram gwyrdd) yn ei ganol yw baner Moroco. Mae'r seren werdd yn cynrychioli'r agoriad a'r cefndir coch yn cynrychioli'r cau Mae baner Moroco yn symbol o agoriad y wlad i'r rhyngwladol.

Baner Moroco

Hyd nes yr ail ganrif ar bymtheg y Frenhinlin Hassani oedd yn teyrnasu dros Foroco a maes coch yn unig oedd baner y wlad. Ar 17 Tachwedd, 1915, yn ystod teyrnasiad Mulay Yusuf, ychwanegwyd Selnod Solomon – symbol a ddefnyddiwyd mewn cyfraith yr ocwlt ers canrifoedd – i'r faner.

Pan oedd Moroco dan reolaeth Ffrainc a Sbaen defnyddiwyd y faner yn fewndirol ond gwaharddwyd ei defnydd ar y moroedd. Ail-fabwysiadwyd y faner genedlaethol yn swyddogol yn sgîl annibyniaeth yn 1956.

Ffynonellau

golygu
  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)