Baner drilliw lorweddol o stribedi gwyn, coch, a gwyrdd, a streipen goch yn gorlapio ar hyd yr hòs, yw baner Oman. Yn y canton mae'r arfbais genedlaethol, sef dager khanjar yn ei gwain wedi ei gosod ar gleddau croes. Mae gwyn yn arwydd o heddwch a ffyniant, coch yn symboleiddio brwydrau hanesyddol yn erbyn goresgynwyr o dramor, a gwyrdd yn cynrychioli ffrwythlondeb y tir. Yn answyddogol, mae ystyron ychwanegol gan y lliwiau sy'n berthnasol i hanes Oman: cysylltir gwyn â'r imamiaeth, coch â'r swltaniaeth, a gwyrdd â'r ardal ym mynyddoedd Al Hajar a elwir Jebel Akhdar ("Y Fynydd Werdd").[1]

Baner Oman

Dechreuodd yr Arabiaid yn Oman ddefnyddio baner goch yng nghanol yr 8g. Yn ddiweddarach fe'i mabwysiadwyd gan Swltaniaeth Muscat (1650–1820) a Muscat ac Oman (1820–1970), ac eithrio'r cyfnod 1868–71 pryd ddefnyddiwyd baner wen, arwydd yr imamiaid Ibadi. Mabwysiadwyd y faner gyfredol ar 17 Rhagfyr 1970 fel un o ddiwygiadau'r Swltan Qābūs ibn Saʿīd. Yn wreiddiol, roedd y stribed coch llorweddol yn gulach na'r stribedi gwyn a gwyrdd. Newidiwyd y faner ar 18 Tachwedd 1995 fel bod y tair streipen lorweddol yn y fflei yn gyfled.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) flag of Oman. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Ionawr 2019.