Mae gan faner genedlaethol Rwanda dri stribed llorweddol, yr uwch yn las golau ac yn lled hanner y faner, y canol yn felyn ac yn lled chwarter y faner, a'r chwarter gwaelod yn wyrdd. Lleolir haul euraidd gyda 24 o belydrau yn fly y stribed glas i symboleiddio goleuedigaeth ac undod yn erbyn anwybodaeth.[1] Mae diamedr yr haul yn 0.125 o led y faner.[2] Mae glas yn symboleiddio hapusrwydd ac heddwch, mae melyn yn cynrychioli datblygiad economaidd a chyfoeth mwynol y wlad, ac mae gwyrdd yn symboleiddio gobaith am ffyniant ar sail adnoddau naturiol Rwanda.[1][3][4] 2:3 yw cymhareb y faner hon.[3]

Baner Rwanda

Mabwysiadwyd y faner bresennol ar 31 Rhagfyr 2001, ynghyd ag arfbais ac anthem genedlaethol newydd, i ddisodli'r hen symbolau cenedlaethol a ystyriwyd yn atgof o'r ymwahaniaeth ethnig a arweiniodd at hil-laddiad Rwanda ym 1994. Cafwyd gwared ar goch a du o'r faner, lliwiau sydd ganddynt gysylltiadau â gwaed a galar. Gobaith y llywodraeth yw i'r symbolau cenedlaethol newydd cynrychioli undod cenedlaethol a dyfodol llewyrchus i'r wlad.[4] Dewisiwyd y faner a'r anthem newydd gan gystadleuaeth genedlaethol,[5] ac enillodd yr arlunydd a pheiriannydd Alphonse Kirimobenecyo gyda'r dyluniad presennol.[2]

Cyn-faneri

golygu

Enillodd Rwanda ei hannibyniaeth ar 1 Gorffennaf 1962, ond mae baner 1961–2001 yn dyddio o'r cyfnod pan oedd y wlad yn rhan o Rwanda-Wrwndi.

O 1961 hyd 2001 roedd gan Rwanda faner drilliw fertigol o'r lliwiau pan-Affricanaidd, coch, melyn a gwyrdd. Roedd lliwiau a dyluniad y faner hon yn unfath â baner Guinée, ac eithrio llythyren "R" ddu yn y stribed melyn i olygu "Rwanda".[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Flag of Rwanda. The World Factbook. CIA. Adalwyd ar 16 Mehefin 2013.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Umutesi, Doreen (28 Ionawr 2011). Rwanda’s National symbols. The Sunday Times. Adalwyd ar 16 Mehefin 2013.
  3. 3.0 3.1 Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Anness, 2010), t. 221.
  4. 4.0 4.1 4.2 Complete Flags of the World (Llundain, Dorling Kindersley, 2002), t. 70.
  5. (Saesneg) Vesperini, Helen (31 Rhagfyr 2001). Rwanda unveils new flag and anthem. BBC. Adalwyd ar 16 Mehefin 2013.

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: