Baner Saint Lucia

baner

Baner Saint Lucia Mabwysiadwyd baner Saint Lucia (weithiau Sant Lwsia neu St Lucia) ar 1 Mawrth 1967 yn gychwynnol ac yn derfynol 22 Chwefror 1979 [1] a'i haddasu ychydig ers 22 Chwefror 2002. Mae baner Sant Lwsia yn cynnwys cefndir glas golau gyda dau driongl isosceles canolog, y du cyntaf gyda ymylon gwyn a thriongl melyn wedi'i arosod.

Fe'i dyluniwyd gan yr artist lleol Dunstan St Omer.

DyluniadGolygu

Mae'r trionglau'n gorgyffwrdd, du dros wyn ac aur dros ddu. Mae'r ffigur du yn edrych fel pen saeth yng nghanol y faner. Mae rhan wyn y triongl yn ffurfio ymyl i'r triongl du sydd â lled 1 a 1/2. Y pellter rhwng cynghorion y trionglau mewn du a gwyn yw 4 modfedd. Mae'r trionglau'n rhannu sylfaen gyffredin, eu perthynas â hyd y faner yw 1/3. Baner Sant Lwsia, ynghyd â Baner Gaiana, cyn drefedigaeth Brydeinig arall, yn Ne America yw'r enghreifftiau prin o driongl isosceles mewn dyluniad baner.

Dimensiynau'r trionglau yn 6'×3' a 9"×4½" yn y system imperial.[2]

LliwiauGolygu

 
Ffan tîm pêl-droed Saint Lucia gyda'r faner
 
Mynyddoed Piton, symbol Santa Lucia.

Lliwiau swyddogl y faner a nodwyd gan y Llywodraeth:

Glas - RGB 99, 207, 254
Melyn - 255, 223, 0
Du a'r Gwyn - yn absoliwt, 0, 0, 0 a 255, 255, 255, yn y drefn honno.

SymboliaethGolygu

Glas - cynrychioli teyrngarwch a theyrngarwch, yr awyr drofannol a dyfroedd y Môr y Caribî a'r Chefnfor yr Iwerydd
Aur - cynrychioli ffyniant, cyfoeth, traethau ac haul y Caribî
Du a gwyn - cynrychioli'r gymysgedd hil a roddodd hunaniaeth i'r ynys, a lle mae'r ardal ddu fwyaf yn nodi dylanwad mawr yr hil hynodrwydd y wlad.

Mynyddoedd Piton, symbol o Saint LuciaGolygu

Mae'r trionglau isosceles yn cynrychioli y Pitons (dau begawn [[2], 'Gros Piton' a 'Petit Piton') sy'n rhan o'r ffurfiad daearegol folcanig Cymibou (neu Gimie), a bron i 800 metr uwchlaw lefel y môr, yw arwyddlun yr ynys, fel symbol o gobaith a dyheadau pobl Saint Lucia. Mae hefyd yn atyniad twristiaeth pwysig a Threftadaeth Naturiol a ddatganwyd gan UNESCO.

HanesGolygu

Yn ystod cyfnod trefedigaethol yynys Sant Lwsia o dan reolaeth Prydain, defnyddiwyd baner Blue Ensign gyda tharian ar yr ochr dde, roedd yr arfbais o fewn cylch gwyn gyda golwg o gyfeiriad gorllewinnol yr ynys gan ddangos dau gopa'r llosgfynydd a chwch yn cyrraedd y porthladd. Ar waelod yr arwyddlun roedd yr arwyddair Lladin, "Haud STATIO MALEFIDA CARINIS" ("harbwr diogel ar gyfer cychod"), roedd gan y faner hon gymhareb o 1: 2.

Ar 19 Awst 1939 disodlwyd tarian gydag arfbais newydd. Roedd hyn darian ddu ac arni symbolau aur. Chwarterwyd y darian gan groes bambŵ. Yn y chwarter gyntaf a'r bedwaredd roedd rhosyn goch (symbol o Loegr) ac yr ail a'r bedwerydd dau lili felyn (symbol Ffrainc).

Baner GyfredolGolygu

Mae dyluniad sylfaenol y faner genedlaethol yn dyddio o 1967, pan ddaeth Santa Lucia yn Wladwriaeth Cysylltiedig, mae'n wahanol i'r un presennol oherwydd bod ei chymesuredd yn 5:8 ac roedd y triongl melyn yn llai. Yn 1979 sefydlwyd y cymerusiadau presennol. Amrywiwyd tôn y lliw glas hefyd - i ddechrau'n las canolig, yna glas tywyll a bellach y glas golau presennol.

Baneri HanesyddolGolygu

DolenniGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. https://www.crwflags.com/fotw/flags/lc.html
  2. http://www.govt.lc/stluciaflag
  3. Smith/Neubecker: Escudos de armas y banderas de todas las naciones. Munich 1980, ISBN 3-87045-183-1.
  Eginyn erthygl sydd uchod am faner neu fanereg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sant Lwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sant Lwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.