Baner Gaiana
Bu baner Gaiana (Guyana) yn faner swyddogol y wlad yma yn Ne America ers mis Mai 1966 pan ddaeth y wlad yn annibynnol oddi ar y Deyrnas Unedig. Y llysenw ar y faner yw The Golden Arrowhead.
Dyluniwyd y faner gan Whitney Smith, fecsolegydd o America. Roedd ei gynllun yn wreiddiol heb y ffinio du a gwyn a ychwanegwyd yn hwyrach ar awgrymiad y College of Arms, corff herodraeth Lloegr. Gwnaethpwyd hyn er mwyn cydymffurfio â Rheol Tintur sy'n nodi bod "lliw ar liw" (yn achos saeth werdd ar gefndir goch yn achos y dyluniad wreiddiol, yn anodd ei weld a'i adnabod o bellter. Cymesuredd y faner yw 3:5.
Symboliaeth
golyguMae symboliaeth i'r lliwiau:
- Gwyrdd - amaethyddiaeth a choedwigoedd
- Gwyn - afonydd a dŵr
- Aur - Cyfoeth y mwynau
- Du - Gwytnwch
- Coch - Sêl a deimanegrwydd
Baneri eraill
golyguCeir baneri ar gyfer wahanol wasanaethau sifil a lluoedd arfog Gaiana. Maent yn aml yn dilyn traddodiad banereg Brydeinig.
-
Baner Ensign Awyr Sifil Gaiana
-
Llu Amddiffyn Gaiana
-
Heddlu Gaiana
-
Gwasanaeth carchardai Gaiana
Cyn-faneri
golyguFel rhan o Ymerodraeth Prydain, roedd y faner a ddefnyddiwyd i gynrychioli Gaiana yr un cynllun bras â threfediaethau eraill yr ymeroedraeth - llain las, gyda baner Jac yr Undeb yn y canton ac arfbais Gaiana mewn cylch ar ochr canol dde y faner. Defnyddiwyd fersiwn goch answyddogol ar y môr (gan ddynwared lliman goch, 'Red Ensign' Prydain).[1] Lansiwyd y faner gyntaf yma yn 1875 gan addasu yn 1906 ac 1955. Fel gydag holl baneri yn y traddodiad Brydeinig, y cymesuredd oedd 1:2. Lluniwyd hefyd faner answyddogol ar gyfer Gweriniaeth Gaiana rhwng 1997-1904.
-
Baner Gaina Brydeinig, 1875 tan 1906
-
Baner Gweriniaeth Gaiana Annibynnol, 1887 tan 1904
-
Baner Gaiana Brydeinig, 1906 tan 1955, diddymwyd y disg wen yn 1919
-
Baner Gaiana Brydeinig, 1955 tan 1966
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "1955-1966 Vlae". Flags of the World. Cyrchwyd 4 Maart 2013. Check date values in:
|accessdate=
(help)