Baner ddeuliw lorweddol, gyda'r hanner uchaf yn wyn a'r hanner isaf yn las, yw baner San Marino. Cymerwyd y lliwiau o'r arfbais genedlaethol, sydd yn cael ei gosod yng nghanol y faner am ddefnydd swyddogol. Mae gwyn yn cynrychioli'r eira ar Fynydd Titano (lleoliad y wlad) a'r cymylau uwchben fo, tra bo glas yn cynrychioli'r awyr. Mae'r faner yn dyddio yn ôl i 1797, a chafodd ei hadnabod gan Napoleon Bonaparte fel baner gwladwriaeth annibynnol yn 1799.

Baner San Marino

Ffynonellau

golygu
  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
  Eginyn erthygl sydd uchod am faner neu fanereg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am San Marino. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.