Cwmwl
Casgliad o ddiferynnau neu grystalau wedi rhewi yn yr awyr yw cwmwl (Lladin: cumulus). Ar y ddaear, dŵr yw'r elfen sy'n eu ffurfio.
Rhennir cymylau yn ddau brif ddosbarth, cymylau stratus (o'r Lladin stratus, yn golygu "haen") a chymylau cumulus (Lladin, "wedi eu pentyrru").
Mathau eraill o gwmwlGolygu
Gall cymylau Kelvin-Helmholtz ddigwydd mewn cysylltiad ag amryw o brif gategoriau, megis Cirrus, Altocumulus, Stratocumulus, Stratus & Cumulus. Oherwydd hyn mae‘r Swyddfa Dywydd yn dosbarthu cymylau Kelvin-Helmholtz fel ‘Cymylau Arbennig’.
Cymylau arbennigGolygu
Y Cymylau Arbennig eraill yw Nacreous, Nosloyw Noctilucent, Banner Clouds ynghyd â thonnau Kelvin-Helmholtz (terminoleg swyddogol llawn).
Cymylau AtegolGolygu
Dosbarthiad arall sy’n cynnwys cymylau llai cyffredin yw Cymylau Ategol (Accessory Clouds) megis Pileus, Pannus, Velum, Incus, Mamma, Virga, Praecipitatio, Arcus, Tuba
Cymylau anthropogenigGolygu
Gweithgareddau dyn sy’n gyfrifol am rhain, megis Olion cyddwyso (Contrails awyren), cymylau Pyrocumulus (tân) a Fumulus (mwg).[1]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Huw H. Jones, cys. pers.