Baner Sbaen
Baner drilliw lorweddol gyda stribed coch fel chwarter uchaf lled y faner, stribed coch fel chwarter isaf lled y faner, a stribed melyn fel hanner canol lled y faner yw baner Sbaen. Mae gan y faner wladwriaethol yr arfbais genedlaethol yn adran felen y hoist.
Mabwysiadwyd baner goch a melyn gan Frenin Siarl III yn 1785 er mwyn gwahaniaethu'i longau o longau gwledydd eraill (nid oedd unrhyw wlad arall yn defnyddio'r lliwiau hynny). Daw'r lliwiau o arfbeisiau coch ac aur Castilla ac Aragón, y ddau ranbarth a unwyd gan y Brenin Fernando a'r Frenhines Isabel. Mabwysiadwyd yn swyddogol ar 19 Gorffennaf, 1927.
Pan ddaeth Sbaen yn weriniaeth yn 1931 mabwysiadwyd baner drilliw lorweddol gyda stribedi hafal coch, melyn, a phorffor (a ddaw o naill ai arfbais León neu arfbais Granada) gyda'r arfbais yn y canol. Pan ddaeth y Cadfridog Franco i bŵer yn 1939 ail-fabwysiadwyd y faner wreiddiol. Mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol ar 19 Rhagfyr, 1981.
-
Baner Ail Weriniaeth Sbaen, 1931–1939
Ffynonellau
golygu- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)