Baner Sir Benfro
Cynlluniwyd Baner Sir Benfro yn 2008 gan ddwy artist tecstilau: Eirian Short ac Audrey Walker a'i harddangos gyntaf yng Ngorymdaith Genedlaethol Gŵyl Ddewi ar 1 Mawrth 2009.[1] Fe'i seiliwyd ar eiriau Anthem Genedlaethol Gŵyl Ddewi (Cenwch y Clychau i Ddewi) gan Gwenno Dafydd a rhai o nodweddion pensaernïol Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Phalas yr Esgob.
Gwnaed y faner gan aelodau o Gild Brodio Sir Benfro a Chymdeithas Gelfyddydau Abergwaun. Gellir ei gweld yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Sir Benfro.
Rhai symbolau
golygu- Gwenyn a mêl, yn symbol Celtaidd a gysylltir gyda Dewi Sant.
- Hadau'n egino: yn symbol o eiriau honedig Dewi: Gwnewch y pethau bychain'.
- Y môr: nodwedd o arfordir Sir Benfro.
- Gwyddbwyll: ceir patrwm y bwrdd gwyddbwyll ym muriau Palas yr Esgob.
- Nenfwd pren yr eglwys
- Cloch: Cennwch y clychau i Ddewi medd awdur geiriau'r Anthem, sef Gwenno Dafydd.
- Symbolau ar gerrig muriau'r gadeirlan.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Gwefan Cymdeithas Celfyddydau Abergwaun