Eglwys Gadeiriol Tyddewi

eglwys gadeiriol yn Nhyddewi, Sir Benfro

Eglwys gadeiriol Anglicanaidd yn ninas fechan Tyddewi, Sir Benfro, Cymru, yw Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Mae'n canolfan Esgobaeth Tyddewi a phrif sedd Esgob Tyddewi

Eglwys Gadeiriol Tyddewi
Mathcadeirlan Anglicanaidd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlDewi Sant Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Arfordir Penfro Edit this on Wikidata
LleoliadTyddewi a Chlos y Gadeirlan Edit this on Wikidata
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr28.8 metr, 30 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8819°N 5.2678°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Gothig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iDewi Sant Edit this on Wikidata
Manylion
DeunyddTywodfaen Edit this on Wikidata
EsgobaethEsgobaeth Tyddewi Edit this on Wikidata

Saif yr eglwys gadeiriol ar y safle lle yn ôl traddodiad y sefydlwyd cymuned o fynachod gan Dewi ei hun yn y 6g. Rhwng 645 a 1097, ymosodwyd ar y fynachlog lawer gwaith, yn arbennig gan y Llychlynwyr, ond enillodd gymaint o fri fel canolfan dysg gel mai oddi yma y gofynnodd Alfred, brenin Wessex, am gymorth i adfywio dysg yn Wessex. Lladdwyd nifer o'r esgobion gan yr ymosodwyr yn y cyfnod yma, yn cynnwys yr Esgob Morgeneu yn 999, a'r Esgob Abraham yn 1080.

Yn 1081, ymwelodd Gwilym Goncwerwr a'r fangre. Yn 1090, ysgrifennodd yr ysgolhaig Rhygyfarch ap Sulien fuchedd Dewi yn Lladin, gan gynyddu enwogrwydd Tyddewi. Daeth yr ardal i ddwylo'r Normaniaid, ac yn 1115 apwyntiodd Harri I, brenin Lloegr yr Esgob Bernard yn Esgob Tyddewi, a dechreuodd ef adeiladu eglwys gadeiriol newydd. Yn 1123, ar gais yr Esgob Bernard, cyhoeddodd y Pab Calistus II fod Tyddewi yn gyrchfan i bererinion, gyda dwy bererindod i Dyddewi cystal ag un i Rufain, a thair cystal ag un i Jeriwsalem.

Dechreuwyd adeiladu'r eglwys gaderiol bresennol yn 1181. Ychwanegwyd llawer ati ers hynny, er enghraifft y talcen gorllewinol gan John Nash yn niwedd y 18g. Ymhlith y bobl enwog a gladdwyd yn yr eglwys mae Rhys ap Gruffudd ("Yr Arglwydd Rhys").

Gweler hefyd golygu


Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu