Baner Ynysoedd Solomon
Mabwysiadwyd baner Ynysoedd Solomon ar 18 Tachwedd, 1977, blwyddyn ar ôl ennill hunanlywodraeth ond blwyddyn cyn ennill annibyniaeth ar y Deyrnas Unedig. Caiff ei rhannu'n groesgornel gan streipen felen sy'n cynrychioli heulwen yr ynysoedd. Mae'r ddau driongl a ffurfir gan y streipen yn las a gwyrdd i gynrychioli dŵr a thir. Yn wreiddiol, bu'r pum seren wen yn cynrychioli pum rhandir y wlad. Yn hwyrach rhannwyd yr ynysoedd yn saith rhandir felly newidiwyd symbolaeth y sêr i gyfeirio at y pum prif grŵp o ynysoedd.
Enghraifft o'r canlynol | baner cenedlaethol |
---|---|
Lliw/iau | glas, gwyrdd, melyn, gwyn |
Dechrau/Sefydlu | 18 Tachwedd 1977 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ffynonellau
golygu- Complete Flags of the World (Dorling Kindersley, 2002)