Baner y Comoros
Mabwysiadwyd baner genedlaethol Undeb y Comoros ym mis Ionawr 2002.[1] Mae'r triongl isosgeles[2] yn yr hoist yn wyrdd, lliw traddodiadol Islam, ac yn cynnwys cilgant Islamaiadd gwyn a phedair seren wen i gynrychioli pedair ynys yr ynysfor.[1][3] Mae'r pedwar stribed yn cynrychioli'r bedair ynys, sef o'r brig i'r gwaelod: melyn am Nwali, gwyn am Mayotte, coch am Nzwami, a glas am y brif ynys Grande Comore.[3] Er hyn, mae Mayotte yn diriogaeth Ffrengig de jure, ac mae Nwali a Nzwami yn diriogaethau ymreolaethol de facto.
Cyn-faneri
golygu-
1963–1975
-
1975–1978
-
1978–1992
-
1992–1996
-
1996–2001
Mabwysiadwyd baner i'r Comoros ym 1963 pan oedd yn diriogaeth Ffrengig. Roedd gan y faner hon faes gwyrdd gyda chilgant gwyn yn uwch yr hoist i gynrychioli Islam, a phedair seren wen yn lletraws o chwith gwaelod y faner i dde'r brig i gynrychioli pedair ynys yr ynysfor.
Pan enillodd y Comoros ei hannibyniaeth ar Ffrainc ym 1975, newidiwyd lliw'r maes yn goch i symboleiddio dyheadau sosialaidd y wladwriaeth newydd, gan adael stribed gwrydd ar waelod y faner. Cadwyd y bedair seren, er nad oedd Mayotte yn rhan o'r wlad annibynnol. Ym 1978 daeth yr holl faes yn wyrdd unwaith eto. Newidiwyd y faner gan Gyfansoddiad 1996 i gynnwys monogramau Allah yng nghornel dde'r brig a Muhammad yng nghornel chwith y gwaelod.[1]
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- (Ffrangeg) Les symboles de l'etat Archifwyd 2013-01-25 yn y Peiriant Wayback (Llywodraeth y Comoros)
- (Saesneg) Comoros (Flags of the World)