Baner y Deyrnas Unedig

Mae gan faner y Deyrnas Unedig sawtyr gwyn ar faes glas (i gynrychioli Croes Sant Andreas), sawtyr coch ar y sawtyr gwyn (i gynrychioli Croes San Padrig), a chroes ganolog goch gyda border gwyn (i gynrychioli Croes San Siôr). Gan roedd Cymru yn cael ei hystyried fel rhan o Loegr yn dilyn y Deddfau Uno, nid oes unrhyw gynrychiolaeth ohoni ar faner y Deyrnas Unedig. Gelwir y dyluniad yn "Faner yr Undeb" neu "Jac yr Undeb". Yn hanesyddol, defnyddiwyd ar draws yr Ymerodraeth Brydeinig ac mae dal ganddi statws lled-swyddogol mewn rhai o wledydd y Gymanwlad. Mae'r dyluniad cyfredol yn dyddio o Uniad Prydain Fawr ac Iwerddon yn 1801.

Baner y Deyrnas Unedig
Baner y Deyrnas Unedig
Enghraifft o'r canlynolbaner cenedlaethol Edit this on Wikidata
Lliw/iauglas, coch, gwyn Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Ionawr 1801 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ffynonellau

golygu
  • Complete Flags of the World (Dorling Kindersley, 2002)
  Eginyn erthygl sydd uchod am y Deyrnas Unedig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato