Tref ym Mharc Cenedlaethol Banff yn Alberta, Canada, ywBanff. Mae wedi'i leoli yn Rockies Alberta ar hyd y Briffordd Traws-Canada, tua 126 km (78 mi) i'r gorllewin o Calgary a 58 km (36 mi) i'r dwyrain o Lyn Louise. Mae rhwng 1,400m a 1,630m (4,590 ft a 5,350 ft) uwchben lefel y môr, yn gwneud Banff y gymuned gyda'r uchder ail uchaf yn Alberta, ar ôl Llyn Louise. Tref Banff oedd y fwrdeistref gyntaf i ymgorffori o fewn parc cenedlaethol yng Nghanada.

Banff, Alberta
Mathtown in Alberta Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlBanff Edit this on Wikidata
Poblogaeth8,305 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1885 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethKaren Sorensen Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−07:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iUnzen Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffrangeg, Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolBanff National Park Edit this on Wikidata
SirImprovement District No. 09 (Banff National Park) Edit this on Wikidata
GwladBaner Canada Canada
Arwynebedd4.77 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,400 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaImprovement District No. 09 (Banff National Park) Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.1781°N 115.572°W Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethKaren Sorensen Edit this on Wikidata
Map

Mae Banff yn dref wyliau ac yn un o gyrchfannau twristaidd mwyaf poblogaidd Canada. Yn adnabyddus am ei amgylchfur mynyddig a'i ffynhonnau poeth, mae'n gyrchfan ar gyfer chwaraeon awyr agored yn cynnwys heicio, beicio, sgramblo a sgïo. Tri chyrchfan sgïo gyfagos sydd wedi'u lleoli yn y parc cenedlaethol yw Sunshine Village, Ski Norquay, a Lake Louise Ski Resort.

Lleoliad y dref ym Mharc Cenedlaethol Banff

Hanes golygu

 
Mae tref Banff yn lapio o amgylch Mynydd Twnnel
 
Gwesty'r Brenin Edward
 
Awrora dros Banff

Cafodd Banff ei setlo gyntaf yn yr 1880au, ar ôl i'r rheilffordd drawsgyfandirol gael ei hadeiladu trwy Bow Valley. Ym 1883, darganfuwyd cyfres o ffynhonnau poeth naturiol gan dri o weithwyr y Rheilffordd Môr Tawel Canadaidd ar ochr Mynydd Sulphur. Yn 1885, sefydlodd Canada gronfa ffederal o 26 km2 (10 mi2) o amgylch ffynhonnau poeth yr Cave and Basin, a dechreuon nhw hyrwyddo'r ardal fel cyrchfan a sba rhyngwladol, er mwyn cefnogi'r rheilffordd newydd.[1] Ym 1887, cynyddwyd ardal y warchodfa i 673 km2 (260 mi2) a'i enwi'n "Parc y Mynyddoedd Rocky". Dyma oedd dechrau system Parc Cenedlaethol Canada.

Enwyd yr ardal yn Banff ym 1884 gan George Stephen, llywydd y Rheilffordd Môr Tawel Canadaidd, gan gofio ei fan geni yn Banff, yr Alban. Adeiladodd y cwmni gyfres o westai crand ar hyd y rheilffordd a hysbysebu Gwesty Banff Springs fel cyrchfan i dwristiaid rhyngwladol.

Datblygwyd tref Banff ger yr orsaf reilffordd fel canolfan wasanaethu twristiaid a oedd yn ymweld â'r parc. Fe'i gweinyddwyd gan system parciau cenedlaethol Llywodraeth Canada tan 1990 pan ddaeth Tref Banff yr unig fwrdeistref i fod y tu fewn i barc cenedlaethol Canada.

Sefydlwyd gwersyll caethiwedigaeth ym Banff a Castle Mountain ym Mharc Dominion rhwng Gorffennaf 1915 a Gorffennaf 1917.[2] Defnyddiwyd carcharorion y gwersyll caethiwedigaeth fel llafur rhydd i adeiladu isadeiledd y parc cenedlaethol.[3]

Ym 1985, cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig Barc Cenedlaethol Banff, fel un o Barciau Mynyddoedd Rocky Canada, yn Safle Treftadaeth y Byd. Mae Banff yn parhau i fod yn un o'r cyrchfannau twristiaeth fwyaf poblogaidd yng Nghanada.

Un o ffigurau mwyaf nodedig Banff oedd Norman Luxton, a elwid yn "Mr. Banff". Cyhoeddodd ef bapur newydd Crag and Canyon, adeiladodd Westy’r Brenin Edward a'r Theatr Lux, a sefydlodd y Sign of the Goat Curio Shop a arweiniodd at ddatblygiad Amgueddfa Luxton Indiaid y Gwastatiroedd, sydd bellach yn Amgueddfa Cenhedloedd y Buffalo.[4] Helpodd ef a'i deulu i drefnu Dyddiau Indiaidd Banff a Charnifal Gaeaf Banff.

Demograffeg golygu

Yn ôl y cyfrifiad trefol 2017, poblogaeth Tref Banff yw 8,875,[5] cynnydd 5.4% o'i phoblogaeth yng nghyfrifiad trefol 2014 o 8,421.[6]

Mae Parciau Canada yn gorfodi gofynion ar unigolion y mae'n rhaid iddynt eu bodloni er mwyn byw yn y dref, er mwyn "sicrhau bod cyflenwad eang o fathau o dai ar gael i'r rhai sy'n gweithio ac yn magu teuluoedd yn y gymuned".[7]

Atyniadau golygu

 
Canol dref Banff ym mis Mawrth
 
Haf yn Banff yn edrych dros afon Bow
 
Amgueddfa Parc Banff
 
Gwesty Fairmont Banff Springs yn 2008

Mae nifer o fynyddoedd poblogaidd wedi'u lleoli yn union wrth ymyl y dref, yn cynnwys Mynydd Rundle (2,949m neu 9,675 ft); Mynydd Cascade (2,998m neu 9,836 ft); a Mount Norquay (2,134m neu 7,001 ft). Mae gan Mount Norquay lethr sgïo yn ogystal â llwybrau beicio mynydd. Mae atyniad poblogaidd i dwristiaid, y Gondola Banff, ar gael i esgyn Mynydd Sulphur (2,281m neu 7,484 ft) lle mae llwybr pren, y Banff Skywalk, yn cychwyn o'r derfynfa uchaf yn mynd ag ymwelwyr i Sanson Peak. Mynydd Sulphur hefyd yw lleoliad un o atyniadau mwyaf poblogaidd Banff, y Banff Upper Hot Springs.

Mae Llyn Minnewanka wedi'i leoli chwe munud i'r gogledd o'r dref, yn ardal boblogaidd iawn gydag amrywiaeth o weithgareddau. Mae beicio mynydd, heicio a physgota i gyd yn weithgareddau a ganiateir yn y rhan hon o'r parc. Mae mordaith boblogaidd iawn ar y llyn, ciosgau bwyd, gellir rhentu cychod modur yn y marina.

Mae Mynydd Twnnel (1,690m neu 5,545 ft) wedi'i leoli yn y dref ac mae'n boblogaidd iawn ar gyfer heiciau byr; gellir cyrraedd y copa mewn llai na hanner awr. Fe'i henwyd yn Fynydd Twnnel oherwydd roedd syrfewyr yn wreiddiol eisiau creu twnnel ar gyfer Rheilffordd Môr Tawel Canada trwy'r mynydd. Wedi'i leoli ar ochr Mynydd Twnnel mae Canolfan Celfyddydau a Chreadigrwydd Banff, sy'n cynnal nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys cyngherddau awyr agored, dawns, opera a theatr.

Mae Banff yn gartref i Ŵyl Deledu'r Byd, Gŵyl Ffilm Mynydd Banff, Gŵyl Gerddoriaeth y Mynyddoedd Rocky, a Bike Fest. Y ddinas hefyd yw man cychwyn y Llwybr Beicio "Great Divide Mountain" (4,417 km neu 2,745 mi), sy'n benu yn Antelope Wells, Mecsico Newydd yn yr Unol Daleithiau.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Banff, AB - Official Website - History and Heritage". www.banff.ca. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 April 2018. Cyrchwyd 28 April 2018.
  2. "Internment Camps in Canada during the First and Second World Wars, Library and Archives Canada". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-05.
  3. "Banff pavilion highlights WWI internment camps". CBC News. Cyrchwyd August 21, 2018.
  4. "The History of Norman Luxton – Founder of the Buffalo Nations Luxton Museum". Buffalo Nations Luxton Museum. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-04-12. Cyrchwyd 2013-02-15.
  5. 2017 Municipal Affairs Population List (PDF). Alberta Municipal Affairs. ISBN 978-1-4601-3652-2. Cyrchwyd January 13, 2018.
  6. 2016 Municipal Affairs Population List (PDF). Alberta Municipal Affairs. ISBN 978-1-4601-3127-5. Cyrchwyd January 13, 2018.
  7. Canada, Parks Canada Agency, Government of. "Eligible residency". www.pc.gc.ca. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 March 2018. Cyrchwyd 28 April 2018.