Y Bara Menyn
Grŵp Cymraeg o'r 1960au oedd y Bara Menyn. Yr aelodau oedd Meic Stevens (llais, gitâr), Heather Jones (llais, gitâr) a Geraint Jarman (llais, tamborîn, organ geg).
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|
Cefndir
golyguFfurfiodd y grŵp yn 1969, fel hwyl, i dynnu coes bandiau y cyfnod. Fodd bynnag, daeth Bara Menyn yn boblogaidd iawn a rhyddhasant ddau E.P. yn 1969.[1]
Grŵp acwstig oedd Y Bara Menyn a ryddhaodd ddwy record EP yn ystod gyrfa fer. Roedd enw’r band yn gyfeiriadaeth eironig a chwareus at y syniad o ennill bywoliaeth drwy ganu yn y Gymraeg. Pan ffurfiwyd y grŵp yn 1969 roedd y tri eisoes yn adnabyddus yn y byd pop Cymraeg, ac roedd Meic Stevens hefyd yn amlwg yn y byd pop Saesneg fel canwr gwerin. Roedd eu diddordebau cerddorol hefyd yn ehangach na ffiniau cerddoriaeth gyfoes Gymraeg.
Un o fwriadau’r tri oedd dychanu’r negeseuon sentimental o wladgarol ac arwynebol oedd yn nodweddu’r mwyafrif o ganeuon poblogaidd ar y pryd gan osgoi’r sain fformiwläig oedd yn perthyn i grwpiau megis Y Diliau a’r Pelydrau. Roedd eu sengl gyntaf, ‘Caru Cymru’, yn ymdrech chwareus i gyflawni’r bwriad hwnnw. Yn anffodus, fodd bynnag, roedd y gynulleidfa ar y cychwyn yn gwbl glustfyddar i holl eironi’r gân. Dywedodd y grŵp mewn cyfweliad yn 1969, ‘cân ddychan am y canu pop-wladgarol … oedd “Caru Cymru”, ond fe brynodd pobl hi heb sylweddoli hynny a’i hoffi am ei bod, ar yr wyneb, yn debyg i’r caneuon roedd hi’n eu dychanu …’ (yn Wyn 2002, 111).
Rhoddodd y grŵp sylw i destunau swrrealaidd Stevens yn arddull bandiau megis y Flying Burrito Brothers, ac fe ddylanwadodd hyn yn ddiweddarach ar rai o ganeuon unawdol Jarman, megis ‘I’ve Arrived’. Er mai byrhoedlog fu gyrfa Y Bara Menyn, buont yn ysbrydoliaeth i grwpiau pop amgen o’r 1970au cynnar megis Y Tebot Piws a’r Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog. Aeth y tri ati yn ystod y 1970au i wneud eu marc fel artistiaid unigol, gyda Jarman yn ffurfio’i grŵp y Cynganeddwyr erbyn diwedd y ddegawd.
Disgyddiaeth
golyguBara Menyn (EP) (Dryw, WRE1065, 1969)
Rhagor o’r Bara Menyn (EP) (Dryw 1072, 1969)
Aelodau
golygu- Meic Stevens - Llais a Gitâr
- Heather Jones - Llais a Gitâr
- Geraint Jarman - Llais, Tamborîn, Organ Geg
Llyfryddiaeth
golyguLyn Ebenezer (gol.), Meic Stevens: I Adrodd yr Hanes (Llanrwst, 1993)
Hefin Wyn, Be Bop a Lula’r Delyn Aur (Talybont, 2002)
Geraint Jarman, Twrw Jarman (Llandysul, 2011)
Heather Jones, gyda Caron Wyn Edwards, Gwrando ar Fy Nghân (Caerdydd, 2007)
Meic Stevens, Mâs o ‘Mâ (Talybont, 2011)