Bara lawr
Gwymon bwytadwy sy'n cynnwys llawer o fwynau fel ïodin a haearn yw bara lawr. Mae'n fwyd sy'n draddodiadol Gymreig, yn enwedig yn ne Cymru, ond caiff ei fwyta hefyd yn Japan lle caiff ei alw'n nori a Chorea lle y gelwir ef yn kim neu'n gim).
Enghraifft o'r canlynol | bwyd |
---|---|
Deunydd | edible seaweed |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fe'i ceir ar draethau gorllewinol ynys Prydain ac arfordir dwyreiniol yr Iwerddon. Ac fel y nodwyd eisioes, mae hefyd yn tyfu ar arfordiroedd Japan a Corea. Mae'n wahanol i bob math arall o wymon gan nad yw ei drwch yn ddim ond un gell.[1]
Y math mwyaf cyffredin yw'r gwymon porffor (Porphyra laciniata/Porphyra umbilicalis).[2]
Credir bod amaethu lawr yn weithred hynafol. Y cyfeiriad cynharaf ato yw’r un yn Britannia gan Camden yn nechrau’r 17g. Mae’n cael ei dynnu oddi wrth y cregiau ac yn cael ei olchiad cyntaf mewn dŵr clir. Mae’r lawr yn cael ei olchi sawl gwaith er mwyn cael gwared ar unrhyw dywod, ac yna mae’n cael ei ferwi am oriau hyd nes y mae’n stwnsh gwyrdd, anystwyth. Yn y cyflwr hwn, gellir cadw’r lawr am ryw wythnos. Yn nodweddiadol yn ystod 18g, paciwyd y stwnsh mewn croc (llestr pridd) a gwerthwyd ef fel “lawr potiedig”.
Cysylltir amaethu lawr â Chymru yn nodweddiadol, ac mae’n cael ei gasglu ar hyd arfordiroedd Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin hyd heddiw, er y defnyddir dulliau tebyg ar arfordir gorllewinol Yr Alban.
Gellir bwyta lawr yn oer fel salad gyda chig oen neu ddafad. Ffordd seml o baratoi lawr yw trwy ei gynhesu ac ychwanegu menyn a sudd lemwn neu oren. Gellir cynhesu lawr a’i weini gyda bacwn wedi’i ferwi. Fe’i defnyddir ar gyfer gwneud y saig Gymreig - bara lawr.
Mae bara lawr (neu, bara lafwr) yn ddanteithfwyd traddodiadol Cymreig a wneir â lawr. I wneud bara lawr, rhaid berwi gwymon am sawl awr, cyn ei friwio. Mae'r past gelatin sy'n ganlyniad yn gallu cael ei werthu fel ag y mae wedyn, neu wedi'i rolio mewn uwd; yn gyffredinol fe'i gorchuddir ag uwd cyn ei ffrio.
Yn draddodiadol, mae bara lawr yn cael ei fwyta wedi'i ffrio gyda chig moch a chocos fel rhan o frecwast Cymreig. Hefyd, gellir ei ddefnyddio i wneud saws i gyd-fynd â chig oen, cranc, mor-lyffant, a.y.y.b., ac i wneud cawl lawr (neu, cael lafwr). Mae Richard Burton yn enwog am ddisgrifio bara lawr fel “cafiar y Cymro”.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/tm_objectid=14828141&method=full&siteid=50082&headline=laverbread-name_page.html Gwefan Saesneg WalesOnline
- ↑ http://www.algaebase.org/search/species/detail/?species_id=102 Erthygl Saesneg: Algaebase : Species Detail.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan Celtnet.org Archifwyd 2011-09-10 yn y Peiriant Wayback