Sylwedd a fwyteir yw bwyd, sydd fel arfer yn ychwanegu maeth i'r organeb. Fel arfer planhigyn neu anifail yw ei darddiad ac mae'r maethynnau (ee carbohydrad, braster, protein, fitamin neu fwynau.[1] Mae'r sylwedd yn cael ei amlyncu i'r organeb ee corff ac yn cael ei dreulio er mwyn darparu egni fel bod bywyd yn parhau a'r corff yn datblygu.

Bwyd
Mathdisposable product, deunydd Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebnon-food item Edit this on Wikidata
Deunyddcynhwysyn bwyd Edit this on Wikidata
Rhan oQ13538519 Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscynhwysyn bwyd, dŵr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bwyd
Ysgythriad o 1701, gan nodi rhai o'r bwydydd a fwytwyd (yn ôl yr arlunydd!)

Yn hanesyddol, mae bodau dynol wedi sicrhau bwyd mewn dwy ffordd wahanol: hela a chasglu ac amaethyddiaeth. Heddiw, mae'r diwydiant bwyd yn darparu bwyd llawer o'r bwyd sydd ei angen gan boblogaeth sy'n parhau i gynyddu a cheir rheolau llym mewn llawer o wledydd er mwyn sicrhau fod y bwyd yn ddiogel i'w fwyta; ceir felly asiantau rhynwladol megis International Association for Food Protection, World Resources Institute, World Food Programme, Food and Agriculture Organization, a'r International Food Information Council. Ymhlith y problemau a materion maent yn eu hwynebu y mae: Cynaladwyedd, amrywiaeth biolegol, Newid hinsawdd, economeg maethynnau, twf poblogaeth, cyflenwi dŵr a'r mynediad at fwydydd.

Ystyrir yr hawl i gael bwyd yn un o'r prif hawliau dynol; deillia hyn o The International Covenant on Economic, Social and Cultural Rights (ICESCR), a gydnabu'r "hawl i safon byw derbyniol, gan gynnwys cyflenwad digonol o fwyd" a "yr hawl sylfaenol i fod yn rhydd o newyn".

Ceir nifer o dechnegau er mwyn gwneud y bwyd yn fwy bwytadwy ac i wella'r blas gan gynnwys berwi, ffrio, mudferwi, pobi, potsio a rhostio.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "food". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-27. Cyrchwyd 2017-05-25. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
Chwiliwch am bwyd
yn Wiciadur.