Barbara Windsor
Actores Seisnig oedd y Fonesig Barbara Ann Windsor DBE (née Deeks) (6 Awst 1937 – 10 Rhagfyr 2020). Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl yn y ffilmiau Carry On ac am chwarae Peggy Mitchell yn opera sebon y BBC EastEnders. Fe'i disgrifwyd gan nifer fel 'trysor cenedlaethol'.[1]
Barbara Windsor | |
---|---|
Llais | Barbara Windsor voice.ogg |
Ganwyd | Barbara Ann Deeks 6 Awst 1937 Shoreditch |
Bu farw | 10 Rhagfyr 2020 o clefyd Alzheimer Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, actor ffilm, hunangofiannydd |
Priod | Ronnie Knight |
Gwobr/au | MBE, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, British Soap Award for Best Actress, British Soap Award for Outstanding Achievement |
Gwefan | http://www.barbarawindsor.com |
Fe'i ganed yn Shoreditch, Llundain, yn ferch i John Deeks a'i wraig Rose (née Ellis). Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Gynradd Santes Fair yn Stoke Newington, ac wedyn yn y Lleiandy Our Lady yn Stamford Hill.
Bywyd personol
golyguPriododd y dyn busnes Ronnie Knight ym 1964. Fe'i cafwyd yn euog o sawl trosedd, ac fe wnaethant ysgaru ym 1985. Priododd Stephen Hollings ym 1986; ysgarodd 1995. Priododd Scott Mitchell yn 2000.
Bu'n dioddef o dementia yn ei 70au hwyr a cafodd ddiagnosis o afiechyd Alzheimer yn 2014. Fe'i symudwyd i gartref gofal yn gynharach yn 2020 a bu farw yn Rhagfyr 2020.[2]
Ffilmiau
golygu- The Belles of St. Trinian's (1954)
- Sparrows Can't Sing (1963)
- Carry On Spying (1964)
- Carry On Doctor (1967)
- Chitty Chitty Bang Bang (1968)
- Carry On Camping (1969)
- Carry On Henry (1971)
- The Boy Friend (1971)
- Carry On Matron (1972)
- Carry On Girls (1973)
- Carry On Dick (1974)
- That's Carry On (1977)
- Comrades (1986)
Teledu
golygu- The Rag Trade (1961-63)
- Wild, Wild Women (1968-69)
- Up Pompeii! (1970)
- EastEnders (1994–2010, 2013, 2016)
- Doctor Who (2006)
Hunangofiant
golygu- All of Me (2000)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Barbara Windsor wedi marw yn 83 oed , Golwg360, 11 Rhagfyr 2020.
- ↑ Dame Barbara Windsor: Carry On and EastEnders actress dies aged 83 (en) , BBC News, 11 Rhagfyr 2020.