Abel Jones (Y Bardd Crwst)
baledwr a chantwr pen ffair (1830 -1901)
(Ailgyfeiriad o Bardd Crwst)
Bardd Cymraeg oedd Abel Jones (1829 – 1901), a adwawenir fel arfer wrth ei enw barddol Y Bardd Crwst. Roedd yn perthyn i'r to olaf o'r baledwyr gwerinol a grwydrai drwy Gymru yn datgan eu cerddi mewn ffeiriau.
Abel Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1829, 1830 Llanrwst |
Bu farw | 1901 Llanrwst |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | bardd, llenor, canwr |
Bywgraffiad
golyguBrodor o blwyf Llanrwst yn yr hen Sir Ddinbych (yn Sir Conwy erbyn hyn) oedd Abel Jones, lle y'i ganed yn 1829. Daeth yn faledwr a grwydrai Gymru benbaladr o'r gogledd i'r de, yn canu yn y ffeiriau a'r tafarnau gan ennill ei fywoliaeth drwy ddatgan neu ganu ei faledi a gwerthu taflenni ohonynt. Er ei fod yn frodor o'r gogledd roedd yn arbennig o boblogaidd yn y de ac roedd yn enwog yn ffeiriau Gwent a Morgannwg yn ail hanner y 19eg ganrif. Bu farw yn 1901.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Tegwyn Jones, Abel Jones Bardd Crwst (Gwasg Carreg Gwalch, 1989). ISBN 9780863811326
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
Gweler hefyd
golygu